bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Corinthians 2
2 Corinthians 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch.
2
Oblegid os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw'r hwn a'm llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi?
3
Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
4
Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y'ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi.
5
Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
6
Digon i'r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.
7
Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a'i ddiddanu; rhag llyncu'r cyfryw gan ormod tristwch.
8
Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef.
9
Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth.
10
I'r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;
11
Fel na'n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
12
Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,
13
Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu'n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.
14
Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle.
15
Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:
16
I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?
17
Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13