bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Corinthians 8
2 Corinthians 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
2
Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.
3
Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain;
4
Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.
5
A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:
6
Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.
7
Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
8
Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
9
Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau'n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
10
Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.
11
Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o'r hyn sydd gennych.
12
Canys os bydd parodrwydd meddwl o'r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.
13
Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;
14
Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra:
15
Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.
16
Eithr i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus.
17
Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o'i wirfodd ei hun.
18
Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy'r holl eglwysi;
19
Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â'r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i'r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:
20
Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym:
21
Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion.
22
Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch.
23
Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
24
Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o'ch cariad, ac o'n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13