bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Corinthians 9
2 Corinthians 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
1
Canys tuag at am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch:
2
Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a'r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.
3
A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:
4
Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a'ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma.
5
Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i'r brodyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.
6
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.
7
Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
8
Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:
9
(Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i'r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.
10
A'r hwn sydd yn rhoddi had i'r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)
11
Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.
12
Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;
13
Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;
14
A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.
15
Ac i Dduw y byddo'r diolch am ei ddawn anhraethol.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13