bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Corinthians 4
2 Corinthians 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu;
2
Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.
3
Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig:
4
Yn y rhai y dallodd duw'r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.
5
Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.
6
Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.
7
Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni.
8
Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith;
9
Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha;
10
Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni.
11
Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
12
Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau.
13
A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;
14
Gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a'n gosod gerbron gyda chwi.
15
Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.
16
Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
17
Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni;
18
Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13