bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezra 3
Ezra 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 4 →
1
A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr.
2
Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a'i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a'i frodyr, ac a adeiladasant allor DUW Israel, i offrymu arni offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr DUW.
3
A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, poethoffrymau bore a hwyr.
4
Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd;
5
Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i'r ARGLWYDD.
6
O'r dydd cyntaf i'r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD. Ond teml yr ARGLWYDD ni sylfaenasid eto.
7
Rhoddasant hefyd arian i'r seiri maen, ac i'r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i'r Sidoniaid, ac i'r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
8
Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ DDUW i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a'r rhan arall o'u brodyr hwynt yr offeiriaid a'r Lefiaid, a'r rhai oll a ddaethai o'r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr ARGLWYDD.
9
Yna y safodd Jesua, a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel a'i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ DDUW: meibion Henadad, â'u meibion hwythau a'u brodyr y Lefiaid.
10
A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr ARGLWYDD, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a'r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr ARGLWYDD, yn ôl ordinhad Dafydd brenin Israel.
11
A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A'r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
12
Ond llawer o'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r pennau‐cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd:
13
Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a'r sŵn a glywid ymhell.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10