bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezra 7
Ezra 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 8 →
1
Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
2
Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
3
Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
4
Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
5
Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf:
6
Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a'r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno ef.
7
A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, a'r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i'r brenin Artacsercses.
8
Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i'r brenin.
9
Canys ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o'r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef.
10
Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i'w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
11
A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD, a'i ddeddfau ef i Israel.
12
Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a'r amser a'r amser.
13
Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o'i offeiriaid ef, a'i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi.
14
Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a'i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law di;
15
Ac i ddwyn yr arian a'r aur a offrymodd y brenin a'i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,
16
A'r holl arian a'r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a'r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu DUW yn Jerwsalem:
17
Fel y prynych yn ebrwydd â'r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a'u bwyd‐offrymau, a'u diod‐offrymau, a'u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich DUW yn Jerwsalem.
18
A'r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â'r rhan arall o'r arian a'r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich DUW.
19
A'r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy DDUW, dod adref o flaen dy DDUW yn Jerwsalem.
20
A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy DDUW, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin.
21
A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i'r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;
22
Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.
23
Beth bynnag yw gorchymyn DUW y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ DUW y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a'i feibion?
24
Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a'r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ DDUW hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth.
25
Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o'r tu hwnt i'r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
26
A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy DDUW, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i'w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.
27
Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn sydd yn Jerwsalem:
28
Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a'i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr ARGLWYDD fy NUW arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10