bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezra 9
Ezra 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 10 →
1
Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a'r Amoriaid.
2
Canys cymerasant o'u merched iddynt eu hun, ac i'w meibion; a'r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a'r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.
3
Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a'm gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a'm barf, ac a eisteddais yn syn.
4
Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a'r a ofnodd eiriau DUW Israel, am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol.
5
Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o'm cystudd; ac wedi i mi rwygo fy nillad a'm gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy nwylo at yr ARGLWYDD fy NUW,
6
Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy NUW; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a'n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
7
Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a'n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.
8
Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr ARGLWYDD ein DUW, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef; fel y goleuai ein DUW ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed.
9
Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein DUW ni yn ein caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orffwystra i ddyrchafu tŷ ein DUW ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem.
10
Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein DUW? canys gadawsom dy orchmynion di,
11
Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i'w meddiannu, gwlad halogedig yw hi, trwy halogedigaeth pobl y gwledydd, oblegid eu ffieidd‐dra hwynt, y rhai a'i llanwasant hi â'u haflendid o gwr bwygilydd.
12
Ac yn awr, na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i'ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na'u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion byth.
13
Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a'n mawr gamwedd, am i ti ein DUW ein cosbi yn llai na'n hanwiredd, a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn;
14
A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu â'r ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un gweddill na dihangol?
15
ARGLWYDD DDUW Israel, cyfiawn ydwyt ti; eithr gweddill dihangol ydym ni, megis heddiw: wele ni o'th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn ni sefyll o'th flaen di am hyn.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Recommended Reading
Commentary
Ezra Commentaries
→
Devotional
Ezra Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→