bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezra 5
Ezra 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 6 →
1
Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i'r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw DUW Israel y proffwydasant iddynt.
2
Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi DUW oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.
3
Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?
4
Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma?
5
A golwg eu DUW oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius: ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.
6
Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o'r tu yma i'r afon, at y brenin Dareius:
7
Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i'r brenin Dareius.
8
Bydded hysbys i'r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y DUW mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.
9
Yna y gofynasom i'r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma?
10
Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.
11
A'r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision DUW nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a'i hadeiladodd, ac a'i seiliodd ef.
12
Eithr wedi i'n tadau ni ddigio DUW y nefoedd, efe a'u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a'r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.
13
Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ DDUW hwn.
14
A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a'u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
15
Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i'r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ DDUW yn ei le.
16
Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ DDUW yn Jerwsalem. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef.
17
Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i'r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ DDUW hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10