bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Micah 2
Micah 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 3 →
1
Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ar eu dwylo.
2
Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a'u dygant: gorthrymant hefyd ŵr a'i dŷ, dyn a'i etifeddiaeth.
3
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.
4
Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.
5
Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.
6
Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.
7
O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i'r neb a rodio yn uniawn?
8
Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda'r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel.
9
Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth.
10
Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost.
11
Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn.
12
Gan gasglu y'th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn.
13
Daw y rhwygydd i fyny o'u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o'u blaen, a'r ARGLWYDD ar eu pennau hwynt.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7