bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Micah 6
Micah 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 7 →
1
Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.
2
Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.
3
Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais? tystiolaetha i'm herbyn.
4
Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.
5
Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.
6
 pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid?
7
A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?
8
Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th DDUW?
9
Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.
10
A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?
11
A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?
12
Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.
13
A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.
14
Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf.
15
Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.
16
Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7