bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Micah 5
Micah 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 6 →
1
Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i'n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.
2
A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.
3
Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.
4
Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.
5
A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i'n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o'r dynion pennaf.
6
A hwy a ddinistriant dir Asyria â'r cleddyf, a thir Nimrod â'i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a'n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i'n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.
7
A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
8
A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.
9
Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a'th holl elynion a dorrir ymaith.
10
A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:
11
Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:
12
A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:
13
Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:
14
Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.
15
Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7