bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Micah 3
Micah 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 4 →
1
Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn?
2
Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a'u cig oddi wrth eu hesgyrn;
3
Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a'u croen a flingant oddi amdanynt, a'u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i'r crochan, ac fel cig yn y badell.
4
Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.
5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â'u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a'r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn.
6
Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a'r dydd a ddua arnynt.
7
Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd DUW ateb.
8
Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel.
9
Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb.
10
Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd.
11
Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a'i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a'r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i'n plith? ni ddaw drwg arnom.
12
Am hynny o'ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7