bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Romans 10
Romans 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth.
2
Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.
3
Canys hwynt‐hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.
4
Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy'n credu.
5
Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai'r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt.
6
Eithr y mae'r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:)
7
Neu, pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,)
8
Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae'r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;
9
Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.
10
Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth.
11
Oblegid y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.
12
Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a'r sydd yn galw arno.
13
Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.
14
Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr?
15
A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!
16
Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni?
17
Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.
18
Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.
19
Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y'ch digiaf chwi.
20
Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf.
21
Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16