bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Romans 2
Romans 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau.
2
Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.
3
Ac a wyt ti'n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu'r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw?
4
Neu a wyt ti'n diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?
5
Eithr yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw,
6
Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd:
7
Sef i'r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol:
8
Eithr i'r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i'r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint;
9
Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd:
10
Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i'r Iddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd.
11
Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
12
Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf;
13
(Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir.
14
Canys pan yw'r Cenhedloedd y rhai nid yw'r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain:
15
Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a'u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;)
16
Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
17
Wele, Iddew y'th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw;
18
Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o'r ddeddf;
19
Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i'r deillion, yn llewyrch i'r rhai sydd mewn tywyllwch,
20
Yn athro i'r angall, yn ddysgawdwr i'r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a'r gwirionedd yn y ddeddf.
21
Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di?
22
Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di?
23
Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri'r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw?
24
Canys enw Duw o'ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig.
25
Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.
26
Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad?
27
Ac oni bydd i'r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a'r enwaediad wyt yn troseddu'r ddeddf?
28
Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd:
29
Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16