bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Romans 3
Romans 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Pa ragoriaeth gan hynny sydd i'r Iddew? neu pa fudd sydd o'r enwaediad?
2
Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw.
3
Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?
4
Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner.
5
Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)
6
Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?
7
Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau eto megis pechadur?
8
Ac nid, (megis y'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
9
Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o'r blaen fod pawb, yr Iddewon a'r Groegwyr, dan bechod;
10
Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:
11
Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.
12
Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.
13
Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau:
14
Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd:
15
Buan yw eu traed i dywallt gwaed:
16
Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:
17
A ffordd tangnefedd nid adnabuant:
18
Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.
19
Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae'r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo'r holl fyd dan farn Duw.
20
Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy'r ddeddf y mae adnabod pechod.
21
Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a'r proffwydi;
22
Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth:
23
Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw;
24
A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:
25
Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;
26
I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.
27
Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.
28
Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.
29
Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i'r Cenhedloedd hefyd:
30
Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha'r enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.
31
Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau'r ddeddf.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16