bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Romans 16
Romans 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea:
2
Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a'i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3
Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu;
4
Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i'r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
5
Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.
6
Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.
7
Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a'm cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.
8
Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9
Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10
Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.
11
Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
12
Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.
13
Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau.
14
Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a'r brodyr sydd gyda hwynt.
15
Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16
Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.
17
Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
18
Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau'r rhai diddrwg.
19
Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o'ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.
20
A Duw'r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
21
Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch.
22
Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.
23
Y mae Gaius fy lletywr i, a'r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a'r brawd Cwartus.
24
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen.
25
I'r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd;
26
Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau'r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd‐dod ffydd:)
27
I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen. At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16