bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 John 1
1 John 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a syllasom arno ac a deimlodd ein dwylaw ynghylch Gair y Bywyd:
2
(A'r Bywyd a amlygwyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu ac yn mynegi i chwi y Bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tâd ac a amlygwyd i ni):
3
yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym hefyd yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni; ië, a'n cymdeithas ni sydd gyda'r Tâd a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.
4
A'r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.
5
A hon ydyw y genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei dadgan i chwi: Duw, Goleuni ydyw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch.
6
Os dywedwn fod i ni gymdeithas âg ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd.
7
Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megys y mae efe yn y goleuni y mae i ni gymdeithas â'n gilydd, a gwaed Iesu ei Fab ef sydd yn ein glanhâu ni oddiwrth bob pechod.
8
Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn arwain ein hunain ar gyfeiliorn, a'r gwirionedd nid yw ynom.
9
Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau, ac i'n glanhâu oddiwrth bob anghyfiawnder.
10
Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5