bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 John 5
1 John 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Pob un a'r sydd yn credu mai Iesu yw y Crist, o Dduw y cenhedlwyd ef; a phob un a'r sydd yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd o hono.
2
Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn gwneuthur ei orchymynion ef.
3
Canys hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynion; a'i orchymynion ef nid ydynt drymion.
4
Oblegyd beth bynnag sydd wedi ei genhedlu o Dduw y mae yn gorchfygu y byd, a hon yw y fuddugoliaeth a orchfygodd y byd, ein ffydd ni.
5
A phwy yw yr hwn sydd yn gorchfygu y byd ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
6
Dyma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dwfr yn unig, eithr yn y dwfr ac yn y gwaed. A'r Yspryd yw yr hwn sydd yn tystiolaethu, oblegyd yr Yspryd yw y Gwirionedd.
7
Canys tri yw y rhai sydd yn tystiolaethu,
8
yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed; ac y mae y tri yn dwyn tystiolaeth i'r un peth.
9
Os ydym yn derbyn tystiolaeth dynion, y mae tystiolaeth Duw yn fwy; canys tystiolaeth Duw yw hyn, ei fod wedi dwyn tystiolaeth am ei Fab.
10
Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, y mae ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nid yw yn credu Duw a'i gwnaeth ef yn gelwyddwr, oblegyd na chredodd yn y dystiolaeth yr hon a dystiolaethodd Duw am ei Fab.
11
A hon yw y dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab.
12
Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae y bywyd ganddo; yr hwn nid yw ganddo Fab Duw nid yw y bywyd ganddo.
13
Y pethau hyn a ysgrifennais atoch, fel y gwypoch fod gennych fywyd tragwyddol, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw.
14
A hyn yw yr hyfder sydd gennym tu ag ato ef, sef, os gofynnwn ddim yn ol ei ewyllys ef, y mae yn ein gwrandaw ni.
15
Ac os gwyddom ei fod yn ein gwrandaw ni, pa beth bynnag a ofynnom, ni a wyddom ein bod yn cael y ceisiadau a geisiasom ganddo.
16
Os gwel neb ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, efe a geisia, a Duw a rydd iddo fywyd — i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar geisio o hono.
17
Pob anghyfiawnder, pechod yw; ac y mae pechod nid i farwolaeth.
18
Ni a wyddom nad yw y neb sydd wedi ei genhedlu o Dduw yn pechu; eithr y mae yr hwn a genhedlwyd o Dduw yn ei gadw ef, ac nid yw yr Un Drwg yn cyffwrdd âg ef.
19
Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae yr holl fyd yn gorwedd yn yr Un Drwg.
20
Ac ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roddes i ni ddeall, fel yr adnabyddom yr Un Gwirioneddol; ac yr ydym ni yn yr Un Gwirioneddol, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw y Gwirioneddol Dduw a bywyd tragwyddol.
21
Blant bychain, Cedwch eich hunain oddiwrth yr eilunod.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5