bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 John 4
1 John 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
Anwyliaid, na chredwch bob yspryd, eithr profwch yr ysprydion, ai o Dduw y maent, oblegyd y mae gau‐brophwydi lawer wedi myned allan i'r byd.
2
Yn hyn yr ydych yn adnabod Yspryd Duw: Pob yspryd a'r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
3
A phob yspryd a'r nid yw yn cyffesu Iesu, nid yw o Dduw; eithr hyn yw nodwedd yr Anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, ac yn awr y mae yn y byd eisoes.
4
Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfygasoch hwynt, oblegyd mwy yw yr hwn sydd ynoch chwi na'r hwn sydd yn y byd.
5
Hwynt‐hwy o'r byd y maent: o herwydd hyn o'r byd y llefarant, a'r byd a wrendy arnynt.
6
Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw sydd yn ein gwrandaw ni; yr hwn nad yw o Dduw nid yw yn ein gwrandaw ni. Wrth hyn yr adwaenom Yspryd y Gwirionedd ac Yspryd cyfeiliornad.
7
Anwyliaid, carwn ein gilydd, oblegyd cariad o Dduw y mae, a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y mae wedi ei genhedlu, ac y mae yn adnabod Duw.
8
Yr hwn nid yw yn caru nid adnabu Dduw, oblegid DUW CARIAD YW.
9
Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw ynom ni, oblegyd danfon o Dduw ei unig‐anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
10
Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn Iawn am ein pechodau ni.
11
Anwyliaid, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
12
Ni edrychodd neb ar Dduw erioed: Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom.
13
Yn hyn y gwyddom ein bod yn aros ynddo, ac yntau ynom ninnau, am ei fod wedi rhoddi i ni o'i Yspryd.
14
A ninnau a edrychasom ac ydym yn tystiolaethu ddarfod i'r Tâd ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr y byd.
15
Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
16
A nyni a wyddom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw ynom ni. DUW CARIAD YW, a'r hwn sydd yn aros mewn cariad sydd yn aros yn Nuw, ac y mae Duw yn aros ynddo yntau.
17
Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y caffom hyfder Ddydd y Farn; oblegyd fel y mae efe, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
18
Nid oes ofn mewn cariad: eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, oblegyd y mae i ofn gospedigaeth; a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.
19
Yr ydym ni yn caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
20
Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac yn casâu ei frawd, celwyddog yw; canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd a welodd, nis gall garu Duw, yr hwn nis gwelodd.
21
A'r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5