bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 John 3
1 John 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Gwelwch y fath gariad a roddodd y Tâd i ni, fel y'n gelwir yn blant Duw: a'r cyfryw ydym. O achos hyn, nid edwyn y byd ni, gan nad adnabu ef.
2
Anwyliaid, yn awr plant Duw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: gwyddom, ped amlyger, y byddwn gyffelyb iddo ef, oblegyd ni a'i gwelwn ef fel y mae.
3
A phob un sydd ganddo y gobaith hwn ynddo ef sydd yn ei buro ei hun, megys y mae yntau yn bur.
4
Pob un ar sydd yn gwneuthur pechod sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith; ac anghyfraith yw pechod.
5
A chwi a wyddoch iddo ef gael ei amlygu i gymeryd ymaith bechodau, ac ynddo ef nid oes pechod.
6
Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu; pob un sydd yn pechu, nid yw wedi ei weled ef, nac ychwaith wedi ei adnabod ef.
7
Blant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd gyfiawn, fel y mae efe yn gyfiawn.
8
Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o Ddiafol y mae; canys y mae y Diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd y Diafol.
9
Pob un sydd wedi ei genhedlu o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod, canys ei hâd ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all efe bechu, am ei genhedlu ef o Dduw.
10
Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant y Diafol: Pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, a'r hwn nad yw yn caru ei frawd.
11
Oblegyd hon yw y genadwri a glywsoch o'r dechreuad, garu o honom ein gilydd.
12
Nid fel yr oedd Cain o'r Un Drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oherwydd bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn gyfiawn.
13
Na ryfeddwch, frodyr, os yw y byd yn eich casâu chwi.
14
Nyni a wyddom fyned drosodd o honom allan o farwolaeth i fywyd oblegyd ein bod yn caru y brodyr. Yr hwn nid yw yn caru, y mae yn aros mewn marwolaeth.
15
Pob un a'r sydd yn casâu ei frawd, llofrudd ydyw, a chwi a wyddoch nad oes gan un llofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.
16
Yn hyn yr ydym yn adnabod cariad, am ddodi o hono ef ei einioes drosom ni, a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.
17
Eithr pwy bynnag sydd ganddo dda y byd, ac a sylwo ar ei frawd mewn eisieu, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?
18
Blant bychain, na charwn ar air, nac â'r tafod; eithr mewn gweithred a gwirionedd.
19
Yn hyn y gwybyddwn ein bod o'r gwirionedd, ac y darbwyllwn ein calon ger ei fron ef,
20
ym mha beth bynnag y condemnia ein calon ni; canys y mae Duw yn fwy na'n calon ac yn gwybod pob peth.
21
Anwyliaid, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyfder tu ag at Dduw.
22
A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegyd ein bod yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.
23
A hwn yw ei orchymyn ef: Gredu o honom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megys y rhoddes efe orchymyn i ni.
24
A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau, ac yn hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, trwy yr Yspryd a roddodd efe i ni.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5