bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Timothy 1
2 Timothy 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn ol addewid y bywyd yr hwn sydd yng Nghrist Iesu,
2
at Timotheus, fy mhlentyn anwyl: Gras, trugaredd, tangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd.
3
Y mac gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu o'm cyndadau mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae gennyf goffa am danat ti yn fy neisyfiadau, nos a dydd
4
yn hiraethu am dy weled di, gan gofio dy ddagrau, fel y'm llanwer o lawenydd;
5
wedi cael fy adgoffa o'r ffydd ddiragrith sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu gennyf, ynot tithau hefyd.
6
O herwydd pa achos yr wyf yn dy adgoffa i ail‐ennyn yn fflam ddawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw i.
7
Canys ni roddes Duw i ni yspryd llwfrdra, eithr o allu, a chariad, a phwyll.
8
Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finnau ei garcharor ef; eithr cyd‐oddef di gystudd ar ran yr efengyl yn ol gallu Duw,
9
yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd ni â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun, a gras yr hwn a roddwyd i ni cyn amseroedd yr oesoedd,
10
ond a amlygwyd yn awr trwy Ymddangosiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, yr hwn a ddirymmodd yr angau, ac a daflodd oleuni ar fywyd ac anllygredigaeth trwy yr efengyl;
11
i'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac Apostol, a dysgawdwr y Cenhedloedd.
12
Am ba achos yr wyf yn dyoddef hefyd y pethau hyn; ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy yr ymddiriedais, ac yr wyf yn argyhoeddedig ei fod yn alluog i warchod yr hyn a roddais i'w gadw erbyn y Dydd hwnnw.
13
Dal gynllun y geiriau iachus a glywaist gennyf fi, mewn ffydd a chariad yng Nghrist Iesu.
14
Y peth da a rodded i ti i'w gadw, gwarchod trwy yr Yspryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.
15
Ti a wyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sydd yn Asia droi oddiwrthyf fi, o'r rhai y mae Phegelus a Hermogenes.
16
Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus; canys yn fynych y'm hadlonnodd i, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i;
17
eithr pan ddaeth i Rufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn,
18
ac a'm cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw!) ac ym mha lawer o bethau y gwasanaethodd efe yn Ephesus, ti a wyddost yn dda iawn.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4