bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Timothy 3
2 Timothy 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Ond gwybydd hyn, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf,
2
canys bydd dynion yn hunangar, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn ansanctaidd,
3
heb serch naturiol, yn annghymodlawn, yn enllibaidd, yn annghymmedrol, yn greulawn, heb serch at ddaioni,
4
yn fradwyr, yn fyrbwyll, wedi ymchwyddo, yn hoffwyr pleser yn hytrach nag yn hoffwyr Duw,
5
a chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi; ac oddiwrth y rhai hyn tro ymaith.
6
Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sydd yn ymlusgo i deuluoedd, ac yn dwyn i gaethiwed wrageddos wedi eu llethu gan bechodau, wedi eu harwain gan amrywiol chwantau,
7
o hyd yn dysgu, a byth yn methu dyfod i lawn‐wybodaeth o'r gwirionedd.
8
Ond y modd y gwrthsafodd Jannes a Jambres Moses, felly hefyd y mae y rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd: dynion a'u meddyliau wedi eu hollol lygru, yn annghymmeradwy o ran ffydd.
9
Eithr nid änt rhagddynt ym mhellach, canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, fel y bu yr eiddynt hwy hefyd.
10
Eithr tydi a ddylynaist fy addysg i, fy ymarweddiad, arfaeth, ffydd, hir‐ymaros, cariad, amynedd,
11
erlidiau, dyoddefiadau, y fath a ddygwyddasant i mi yn Antioch, yn Iconium, yn Lystra; y fath erlidiau a ddyoddefais: ac allan o honynt oll yr Arglwydd a'm gwaredodd.
12
Ië, a phawb sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu a erlidir.
13
Eithr drwg‐ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
14
Eithr tydi, aros yn y pethau a ddysgaist, ac o'r rhai yr wyt yn argyhoeddedig, gan wybod gan bwy y dysgaist hwynt;
15
ac i ti er yn faban wybod yr Ysgrythyrau Sanctaidd, y rhai sydd yn alluog i'th wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu.
16
Pob Ysgrythyr ysprydoledig gan Dduw sydd hefyd fuddiol er addysgu, er argyhoeddi, er adferyd, er hyfforddi mewn cyfiawnder,
17
fel y byddo dyn Duw yn gyflawn, wedi ei lawn‐ddarparu i bob gweithred dda.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4