bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Timothy 2
2 Timothy 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Tydi gan hynny, fy mhlentyn, ymnerther di yn y gras sydd yng Nghrist Iesu;
2
a'r pethau a glywaist gennyf yng ngwydd llawer o dystion, traddoda y rhai hynny i ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant gymhwys i ddysgu eraill hefyd.
3
Cyd‐oddef adfyd gyda mi, fel milwr da i Iesu Grist.
4
Nid yw yr hwn sydd yn milwrio yn ymddyrysu yng ngorchwylion y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i cofrestrodd yn filwr.
5
Ac hefyd os ymdrecha neb yn y campau, ni choronir ef onid ymdrecha yn gyfreithlawn.
6
Rhaid i'r amaethydd sydd yn llafurio fod y cyntaf i gyfrannogi o'r ffrwythau.
7
Ystyria yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, canys yr Arglwydd a ddyry i ti ddeall ym mhob peth.
8
Cadw mewn côf Iesu Grist, fel wedi adgyfodi o feirw, o hâd Dafydd, yn ol fy efengyl i,
9
yn yr hon yr wyf yn goddef adfyd hyd rwymau, fel drwg‐weithredwr; eithr gair Duw ni rwymwyd.
10
O herwydd hyn yr wyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y caffont hwythau hefyd yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragywyddol.
11
Ffyddlawn yw y gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef;
12
os goddefwn, teyrnaswn hefyd gydag ef; os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ni;
13
os ydym ni yn anffyddlawn, efe a erys yn ffyddlawn, canys nis gall efe wadu ei hun.
14
Dwg y pethau hyn i'w côf, gan eu tynghedu gerbron Duw na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y rhai sydd yn gwrandaw.
15
Bydd ddyfal i gyflwyno dy hun yn gymmeradwy i Dduw, yn weithiwr na raid iddo gywilyddio, gan iawn‐gyfrannu gair y gwirionedd.
16
Ond cadw draw oddiwrth bob halogedig wag‐siarad, canys ant rhagddynt i fwy o annuwioldeb;
17
a'u gair hwy a fwytty yn ddyfnach, fel cancr gwyllt; o'r rhai y mae Hymenëus a Philetus;
18
yn rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd fod yr Adgyfodiad wedi cymmeryd lle eisoes, ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.
19
Eithr yn wir y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sêl hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef, a, Pob un sydd yn enwi enw yr Arglwydd, cadwed yn glir oddiwrth annghyfiawnder.
20
Yn awr, mewn tŷ mawr, y mae nid yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i ammharch.
21
Os gan hynny, y glanhâ neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei gyssegru, yn gymhwys i wasanaeth y Meistr, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.
22
Ond chwantau ieuengctyd, ffo oddiwrthynt, a dylyn ar ol cyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.
23
Eithr gochel ynfyd ac anwybodus gwestiynau, gan wybod eu bod yn cynnyrchu ymrafaelion;
24
ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymrafaelio, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn amyneddgar yn wyneb cam,
25
mewn addfwynder yn hyfforddi y rhai gwrthwynebus, os byth y rhydd Duw iddynt edifeirwch i lawn‐adnabyddiaeth o'r gwirionedd,
26
ac ymddadebru i sobrwydd allan o fagl y Diafol, wedi eu dal ganddo ef i'w ewyllys ef.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4