bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Timothy 4
2 Timothy 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Yr wyf yn gorchymyn i ti yn ddifrifol gerbron Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd ar fedr barnu y byw a'r meirw, a myn ei Ymddangosiad a'i Deyrnas,
2
pregetha y gair; bydd dyfal mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, cynghora, gyda phob hir‐ymaros ac addysg.
3
Canys bydd amser pan na ddyoddefont yr athrawiaeth iachus, eithr yn ol eu chwantau eu hunain hwy a bentyrrant athrawon iddynt eu hunain, gan fod eu clyw wedi merwino;
4
ac a droant eu clustiau oddiwrth y gwirionedd, ac a droant o'r neilltu at chwedlau.
5
Ond tydi, bydd yn sobr ym mhob peth, goddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.
6
Canys yr wyf fi eisoes yn cael fy offrymmu, a thymhor fy ymadawiad i a ddaeth.
7
Yr wyf wedi ymdrechu yr ymdrech dda, yr wyf wedi gorphen y rhedegfa, yr wyf wedi cadw y ffydd.
8
O hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnnw, y Barnwr cyfiawn: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb sydd wedi caru ei Ymddangosiad ef.
9
Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder,
10
canys Demas a'm gadawodd i, wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia; Titus i Dalmatia;
11
Luc yn unig sydd gyda mi. Cymmer i fyny Marc ar y ffordd, a dwg ef gyda thi, canys buddiol iawn yw ef i mi er gwasanaeth.
12
Tychicus a ddanfonais i Ephesus.
13
Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred a hi, a'r llyfrau, ac yn enwedig y memrynnau.
14
Alexander y gôf a wnaeth i mi yn gyhoeddus ddrygau lawer: yr Arglwydd a dâl iddo yn ol ei weithredoedd.
15
Yr hwn hefyd gwylia dithau rhagddo, canys ef a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.
16
Yn fy amddiffyniad cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant; na chyfrifer hyn iddynt.
17
Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd, fel trwof fi y byddai i'n cennadwri gael ei chyhoeddi yn llawn, ac y clywai yr holl genhedloedd: a gwaredwyd fi o enau y llew.
18
A'r Arglwydd a'm gwared oddiwrth bob gwaith drwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
19
Cyfarch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus.
20
Erastus a arhosodd yn Corinth, ond Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf.
21
Ymdrecha i ddyfod cyn y gauaf. Y mae Eubulus yn dy gyfarch, a Pudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll.
22
Yr Arglwydd fyddo gyda'th yspryd. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4