bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Colossians 1
Colossians 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,
2
at y saint a'r ffyddlawn frodyr yng Nghrist Iesu yn Colossa: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd.
3
Yr ydym yn diolch i Dduw, Tâd ein Harglwydd Iesu Grist,
4
gan weddio yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, a'r cariad yr hwn sydd gennych tuag at yr holl saint,
5
o herwydd y gobaith sydd wedi ei drysori i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o'r blaen yn ngair gwirionedd yr efengyl,
6
yr hon a ddaeth attoch chwi, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, megys y mae hefyd ynoch chwithau, er y dydd y clywsoch ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd;
7
fel y dysgasoch gan Epaphras ein cyd‐was anwyl, yr hwn sydd drosom ni yn ffyddlawn weinidog i Grist;
8
yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad yn yr Yspryd.
9
O herwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, ni pheidiwn a gweddio ar eich rhan, a deisyf eich llenwi â llawn‐wybodaeth o'i ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysprydol,
10
i rodio yn deilwng o'r Arglwydd, er rhyngu ei fodd ym mhob peth, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynnyddu trwy wybodaeth o Dduw;
11
yn cael eich galluogi â phob gallu, yn ol cadernid ei ogoniant, i wrol‐barhâd a hir‐ymaros gyda llawenydd;
12
gan ddiolch i'r Tâd; yr hwn a'n cymhwysodd ni i ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni;
13
yr hwn a'n gwaredodd ni allan o allu y tywyllwch, ac a'n trosglwyddodd i deyrnas Mab ei gariad,
14
yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth, maddeuant ein pechodau.
15
Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig yr holl greadigaeth;
16
canys ynddo ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau, ai arglwyddiaethau, ai llywodraethau, ai awdurdodau; yr oll trwyddo ef ac erddo ef, ydynt wedi eu creu.
17
Ac y MAE EFE cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd‐sefyll.
18
Ac efe yw Pen y Corph, yr Eglwys, yr hwn yw y dechreuad, y cyntaf‐anedig o'r meirw, fel y byddai efe ym mhob peth yn blaenori;
19
canys rhyngodd bodd i'r Tad drigo o'r holl gyflawnder ynddo ef,
20
a thrwyddo ef gymmodi pob peth iddo ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed ei Groes, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.
21
A chwithau, y rhai oeddych gynt wedi ymddyeithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg,
22
etto yn awr a gymmododd efe, yng nghorph ei gnawd trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno yn sanctaidd a difeius a diargyhoedd ger ei fron ef,
23
os parhêwch yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sefydlu, ac heb eich bod yn symmud ymaith oddiwrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greadigaeth dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog.
24
Yn awr, yr wyf yn llawenychu yn fy nyoddefiadau drosoch, ac yn llanw i fyny yn fy nhro yr hyn sydd ar ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw yr Eglwys,
25
i'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ol goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi, i gyflawnu gair Duw,
26
sef y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd a rhag y cenhedlaethau, ond yn awr a eglurwyd i'w saint ef,
27
i'r rhai yr ewyllysiodd Duw wneyd yn hyspys pa beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ym mhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant,
28
yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan gynghori pob dyn a dysgu pob dyn ym mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist:
29
i hyn hefyd yr wyf yn llafurio, gan ymdrechu yn ol ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithredu ynof yn nerthol.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4