bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Colossians 4
Colossians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Y meistriaid, rhoddwch gyfiawnder a chyfartalwch i'ch gweision, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
2
Glynwch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;
3
gan weddio yr un pryd hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agoryd i ni ddrws y Gair, i lefaru dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd yn rhwym,
4
fel yr amlygwyf ef, fel y dylwn lefaru.
5
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynnu yr amser.
6
Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwyppoch fel y dylech atteb i bob dyn.
7
Fy holl helynt a hyspysa Tychicus i chwi, y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddlawn a'r cyd‐was yn yr Arglwydd,
8
yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn yma, fel y gwyppech ein helynt, ac fel y dyddanai eich calonnau chwi;
9
gydag Onesimus, y ffyddlawn a'r anwyl frawd, yr hwn sydd un o honoch chwi. Hwy a hyspysant i chwi yr holl bethau yma.
10
Eich annerch y mae Aristarchus fy nghyd‐garcharor, a Marc, cefnder Barnabas, (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion: os daw attoch, derbyniwch ef),
11
a Jesus, yr hwn a elwir Justus, y rhai ydynt o'r Enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i Deyrnas Dduw, yn gyfryw ag a fuant yn gysur i mi.
12
Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd un o honoch, gwas Crist Iesu, gan fod mewn ymdrech meddwl yn wastadol drosoch yn ei weddiau, ar sefyll o honoch yn berffaith ac yn gwbl‐sicr yn holl ewyllys Duw;
13
canys yr wyf yn dyst iddo, fod iddo lafur mawr ar eich rhan chwi, a'r rhai yn Laodicea, a'r rhai yn Hierapolis.
14
Eich annerch y mae Luc, y meddyg anwyl, a Demas.
15
Annerchwch y rhai sydd yn Laodicea, a Nymphas a'r eglwys sydd yn eu tŷ.
16
Ac wedi darllen y llythyr hwn yn eich plith, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid, a darllen o honoch chwithau hefyd yr un o Laodicea.
17
A dywedwch wrth Archippus: Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawnu.
18
Yr annerch â'm llaw i Paul. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4