bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Colossians 3
Colossians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Am hynny, os cyd‐gyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist ar ddeheulaw Duw yn eistedd.
2
Syniwch y pethau sydd uchod, nid y pethau sydd ar y ddaear.
3
Canys buoch feirw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.
4
Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna yr amlygir chwithau hefyd gydag ef mewn gogoniant.
5
Marweiddiwch gan hynny yr aelodau sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, nwyd, drygchwant, a'r trachwant, yr hwn sydd eilunaddoliaeth,
6
o herwydd y rhai y mae digofaint Duw yn dyfod;
7
yn y rhai y rhodiasoch chwithau hefyd gynt, pan oeddych yn byw yn y pethau hyn;
8
ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd heibio yr holl bethau hyn, digder, llid, drygioni, enllib, brwnt‐ymadrodd, allan o'ch genau.
9
Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyda'i ymarferiadau,
10
a gwisgo y dyn newydd, yr hwn sydd yn cael ei adnewyddu i lawn‐wybodaeth, yn ol delw yr hwn a'i creodd ef;
11
lle nid oes Groegwr ac Iuddew, Enwaediad a Dienwaediad, Barbariad, Scythiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, Crist sydd.
12
Am hynny, gwisgwch am danoch, megys etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, galon tosturi, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir‐ymaros,
13
gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd, os oes gan neb gŵyn yn erbyn neb, fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd.
14
A thros y rhai hyn oll gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.
15
A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corph; a byddwch ddiolchgar.
16
Preswylied Gair Crist ynoch yn gyfoethog; ym mhob doethineb yn dysgu ac yn cynghori eich gilydd, mewn salmau, hymnau, ac odlau ysprydol, yn canu trwy ras yn eich calonnau i Dduw.
17
A pha beth bynnag a wneloch, mewn gair neu mewn gweithred, gwnewch yr oll yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dâd trwyddo ef.
18
Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr, megys y gwedda yn yr Arglwydd.
19
Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerw yn eu herbyn.
20
Y plant, ufuddhêwch i'ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd yn rhyngu bodd yn yr Arglwydd.
21
Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.
22
Y gweision, ufuddhêwch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ol y cnawd, nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon yn ofni yr Arglwydd.
23
Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megys i'r Arglwydd ac nid i ddynion;
24
gan wybod mai oddiwrth yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu;
25
canys yr hwn sydd yn gwneuthur cam a dderbyn am y cam a wnaeth, ac nid oes derbyn wyneb.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4