bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Colossians 2
Colossians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Canys yr wyf yn ewyllysio i chwi wybod cymmaint fy ymdrech drosoch chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ni welsant fy wyneb i yn y cnawd,
2
fel y dyddaner eu calonnau hwy, wedi eu huno ynghyd mewn cariad ac i holl olud llawn‐sicrwydd deall, i lawn‐wybodaeth o ddirgelwch Duw, Crist;
3
yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
4
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na bo i neb eich cam‐arwain trwy ymadrodd hudol;
5
canys er fy mod yn absennol yn y cnawd, etto yr wyf gyda chwi yn yr yspryd, yn llawenychu a gweled eich trefn a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist.
6
Megys gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, ynddo rhodiwch:
7
wedi eich gwreiddio ac yn cael eich adeiladu i fyny ynddo, a'ch cadarnhâu yn y ffydd, fel y'ch dysgwyd, gan fod yn helaeth mewn diolchgarwch.
8
Edrychwch na bo neb yn gwneyd ysbail o honoch trwy athroniaeth a gwag dwyll, yn ol traddodiad dynion, yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist.
9
Oblegyd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn trigo yn gorphorol.
10
Ac yr ydych chwi ynddo yn cael eich llanw, yr hwn yw Pen pob llywodraeth ac awdurdod;
11
yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, mewn diosg corph y cnawd yn enwaediad Crist;
12
wedi eich cydgladdu gydag ef yn y Bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd‐gyfodwyd trwy ffydd yng ngweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfododd ef o'r meirw.
13
A chwithau, gan fod yn feirw trwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd — chwychwi a gyd‐fywhâodd efe gydag ef, wedi maddeu i ni yr holl gamweddau,
14
wedi dileu yr ysgrifen‐law mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn, a'r hon a symmudodd efe i ffwrdd, gan ei hoelio wrth y Groes;
15
ac wedi ysgwyd ymaith oddiwrtho ei hun y llywodraethau a'r awdurdodau, efe a wnaeth arddangosiad o honynt ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.
16
Gan hynny na fydded i neb i'ch barnu mewn bwytta nac mewn yfed, neu yn y mater o ddydd gŵyl neu newydd‐loer, neu ddydd Sabbath,
17
y rhai ydynt gysgod o bethau ar ddyfod, ond y sylwedd sydd eiddo Crist.
18
Nac yspeilied neb chwi o'ch gwobr, gan ymhyfrydu mewn gostyngeiddrwydd ac addoliad angylion, gan sefyll ar y pethau a welodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan feddwl ei gnawd,
19
ac heb ddal ei afael yn y Pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, gan gael ei gyflenwi a'i gyd‐gyssylltu trwy y cymmalau a'r gewynau, yn cynnyddu â chynnydd Duw.
20
Os buoch feirw gyda Christ oddiwrth egwyddorion y byd, paham fel yn byw yn y byd, yr ydych yn glynu wrth ordeiniadau, megys:
21
Na theimla, Nad archwaetha, Na chyffwrdd
22
(y rhai ydynt oll i ddarfod wrth eu harfer), yn ol gorchymynion ac athrawiaethau dynion?
23
Y cyfryw bethau sydd ganddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad hunan‐osodol, a gostyngeiddrwydd, a thriniaeth ddiarbed o'r corph, heb fod o un gwerth yn erbyn boddhâd y cnawd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4