bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Philippians 1
Philippians 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philippi, gyda'r arolygwyr a'r diaconiaid:
2
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
3
Yr wyf yn diolch i'm Duw yn fy holl adgof am danoch
4
yn barhaus ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,
5
am eich cydweithrediad mewn perthynas i'r efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yn awr,
6
gan fod yn hyderus yn yr un peth hyn: y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orphen hyd ddydd Iesu Grist;
7
fel y mae yn iawn i ni synied hyn am danoch oll, gan eich bod gennyf yn fy nghalon — yn fy rhwymau a hefyd yn fy amddiffyn a chadarnhâd yr efengyl — yn gyfrannogion â mi o'r gras hwn.
8
Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr wyf yn hiraethu am danoch oll yng nghalon Iesu Grist.
9
A hyn yr wyf yn ei weddio, ar i'ch cariad ymhelaethu etto fwy‐fwy mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth,
10
fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch yn drylwyr a didramgwydd erbyn Dydd Crist,
11
wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw.
12
Ond ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, ddarfod i'm hamgylchiadau droi allan er llwyddiant i'r efengyl,
13
fel y darfu i'm rhwymau ddyfod yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Bretorium ac i'r lleill oll;
14
a'r rhan fwyaf o'r brodyr, gan fod yn hyderus yn yr Arglwydd trwy fy rhwymau, ydynt fwy hyf o lawer i lefaru yn ddiofn Air Duw.
15
Rhai yn wir o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da, a bregethant Grist;
16
rhai, yn wir, o gariad, gan wybod y'm gosodir er ymddiffyn yr efengyl;
17
a rhai o bleidgarwch a bregethant Grist, nid o egwyddor bur, gan feddwl cyfodi blinder i'm rhwymau.
18
Beth ynte? yn unig bod ym mhob modd, ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist yn cael ei gyhoeddi; ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ië, ac y llawenychaf;
19
canys gwn y try hyn allan i mi er iachawdwriaeth, trwy eich deisyfiad chwi a chyflenwad Yspryd Iesu Grist,
20
yn ol fy awyddfryd a'm gobaith nad mewn dim y'm cywilyddir, eithr ym mhob hyfder ymadrodd, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd a'i trwy farwolaeth.
21
Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw.
22
Ond os byw yn y cnawd — os hyn i mi fydd ffrwyth fy ngwaith — pa beth a ddewisaf, nis gwn;
23
ond cyfyngir arnaf o'r ddeu‐tu, gan fod gennyf y chwant i ymadael ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw;
24
eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi.
25
A chennyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf ac y parhâf gyda chwi oll, er eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd,
26
fel y byddo i'ch ymffrost fod yn helaeth yng Nghrist Iesu ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi.
27
Yn unig ymddygwch yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un bynnag ai dyfod a'ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn gadarn mewn un yspryd, âg un enaid yn cyd‐ymdrech dros ffydd yr Efengyl,
28
ac heb eich brawychu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw;
29
canys i chwi y rhoddwyd dros Grist, nid yn unig gredu ynddo, ond hefyd ddyoddef drosto;
30
gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi, ac yn awr a glywch ei bod ynof fi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4