bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Philippians 4
Philippians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Am hynny, fy mrodyr anwyl am y rhai yr hiraethaf, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwyliaid.
2
Yr wyf yn cynghori Euodia ac yn cynghori Syntyche i synied yr un peth yn yr Arglwydd.
3
Ië, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, cymmorth y gwragedd hyn, yn gyfryw ag a gyd‐ymdrechasant gyda mi yn yr efengyl, ynghyd a Chlement hefyd a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn Llyfr y Bywyd.
4
Llawenychwch yn yr Arglwydd yn wastadol: drachefn dywedaf, Llawenychwch.
5
Bydded eich goddefgarwch yn hyspys i bob dyn — y mae yr Arglwydd yn agos.
6
Na phryderwch am ddim, eithr ym mhob peth, trwy weddi ac ymbil gyda diolch, gwneler eich deisyfiadau yn hyspys gerbron Duw;
7
a thangnefedd Duw yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a warchod eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8
Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd anrhydeddus, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd o rasol‐ymadrodd, od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch.
9
A'r pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi.
10
Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd o'r diwedd i chwi adnewyddu eich dyddordeb ynof fi, am yr hyn y meddyliasoch, ond ni chawsoch gyfle.
11
Nid am fy mod yn llefaru o herwydd eisieu, canys mi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag yr wyf, fod yn foddlawn.
12
Mi a wn pa beth yw bod yn isel, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ym mhob un peth ac yn yr oll yr wyf wedi fy egwyddori i fod yn llawn ac i fod yn newynog; i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder.
13
Yr wyf yn gallu pob peth yn yr hwn sydd yn fy nerthu.
14
Er hynny chwi a wnaethoch yn dda drwy gyd‐gyfrannogi o'm gorthrymder.
15
A gwyddoch chwi eich hunain hefyd, O Philippiaid, yn nechreuad yr efengyl, pan aethum allan o Macedonia, na fu un eglwys gyd‐gyfrannog â mi, o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig;
16
canys hyd y nod yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, danfonasoch i mi ar gyfer fy angenrhaid.
17
Nid am fy mod yn ciesio, y rhodd, eithr yr wyf yn ceisio y ffrwyth sydd yn amlhau i'ch cyfrif chwi.
18
Y mae gennyf ddigon o bob peth, a mwy na digon; yr wyf wedi fy llanw, wedi derbyn gan Epaphroditus y rhoddion oddiwrthych chwi, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw.
19
A'm Duw i a leinw bob anghenrhaid o'ch eiddo, yn ol ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu.
20
Ac i'n Duw a'n Tâd y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
21
Annerchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae y brodyr sydd gyda mi yn eich annerch.
22
Y mae yr holl saint yn eich annerch, yn enwedig y rhai o dylwyth Cesar.
23
Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda eich yspryd chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4