bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Philippians 2
Philippians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Os oes gan hynny ryw gefnogaeth yng Nghrist, os rhyw gymhelliad cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw galon‐dynerwch a thosturiaethau,
2
gwnewch fy llawenydd yn gyflawn, fel y byddoch o'r un meddwl, a chennych yr un cariad, o un enaid yn synied yr un peth.
3
Na wneler dim trwy ymbleidiaeth neu wag ogoniant, eithr pawb mewn gostyngeiddrwydd meddwl, yn ystyried eraill yn rhagori arnynt eu hunain;
4
pob un yn edrych nid ar ei bethau ei hun, ond ar eiddo eraill.
5
Bydded ynoch y meddwl hwn, yr hwn hefyd oedd yng Nghrist Iesu,
6
yr hwn, ac efe erioed yn ffurf Duw, ni thybiodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w ddal yn gyndyn,
7
eithr efe a waghâodd ei hun, gan gymmeryd ffurf gwas, a'i wneyd yng nghyffelybiaeth dynion; a chan ei gael mewn dull fel dyn,
8
efe a'i darostyngodd ei hun, gan ddyfod yn ufudd hyd angau, ië, angau y Groes,
9
O herwydd paham Duw a'i tra‐dyrchafodd ef, ac a rad‐roddodd iddo yr Enw sydd goruwch pob enw,
10
fel yn enw yr Iesu y plygai pob glin, o'r nefolion, a'r daearolion, a'r tan‐ddaearolion,
11
ac y cyffesa pob tafod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dâd.
12
Am hynny, fy anwyliaid, megys bob amser yr ufuddhasoch, nid megys yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain.
13
Canys Duw sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu er ei foddlonrwydd.
14
Gwnewch bob peth heb achwyniadau ac ymddadleuon,
15
fel y byddoch yn ddiargyhoedd a didwyll, yn blant Duw, yn ddifeius yng nghanol cenedlaeth ŵyrog a chyfeiliornus, ym mhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd,
16
ac yn dal allan air y bywyd, er ymffrost i mi erbyn Dydd Crist, na redais yn ofer, ac na lafuriais yn ofer.
17
Ië, os yw fy mywyd i'w dywallt allan fel diod-offrwm ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, yr wyf yn llawenychu, ac yn cyd‐lawenychu â chwi oll.
18
Ac yn yr un modd y llawenychwch chwi hefyd, a chyd‐lawenychwch a mi.
19
Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder attoch, fel y'm llonner, gan wybod eich helynt:
20
canys nid oes gennyf neb o gyffelyb enaid, yr hwn a wir‐ofala am eich helynt;
21
canys hwy oll ydynt yn ceisio yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Iesu Grist;
22
ond y prawf o hono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thâd y gwasanaethodd ef gyda mi mewn perthynas i'r efengyl.
23
Hwn, gan hynny, yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon yn ddioed, cyn gynted ag y gwelwyf beth fydd fy helynt;
24
a hyderaf yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd yn fuan attoch.
25
Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon attoch Epaphroditus, fy mrawd a'm cyd‐weithiwr a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i'm hangen innau.
26
Canys yr oedd efe yn hiraethu am danoch oll, ac yn athrist, oblegyd i chwi glywed ei fod yn glaf.
27
Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau; eithr Duw a drugarhâodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael o honof dristwch ar dristwch.
28
Gyda mwy o awydd felly yr anfonais ef, fel, wedi i chwi ei weled ef, y llawenychech drachefn, a minnau yn llai fy nhristwch.
29
Croesaw‐wch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, a deliwch y cyfryw rai mewn anrhydedd;
30
canys o herwydd gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, gan beryglu ei fywyd, fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn eich gwasanaeth tuag attaf fi.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4