bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Philippians 3
Philippians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau attoch i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi y mae yn ddyogel.
2
Gochelwch y cwn; gochelwch y drwg‐weithredwyr; gochelwch y Cyd‐doriad;
3
canys yr Enwaediad ydym ni, y rhai ydym, trwy Yspryd Duw, yn gwasanaethu ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd:
4
er y gallwn i fy hun ymddiried hyd y nod yn y cnawd. Os yw neb arall yn meddwl ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:
5
wedi ymwaedu arnaf yr wythfed dydd; o genedl Israel; o lwyth Benjamin; Hebrewr o Hebreaid; yn ol y Ddeddf, yn Pharisead:
6
yn ol sêl, yn erlid yr eglwys; yn ol y cyfiawnder sydd yn y Ddeddf, yn ddiargyhoedd.
7
Eithr y fath bethau oeddynt elwau i mi, yr wyf wedi cyfrif y rhai hynny yn golled er mwyn Crist.
8
Ië, yn wir, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr hwn y'm colledwyd o bob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn ysgubion, fel yr ennillwyf Grist,
9
ac y'm caffer ynddo ef, heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r Ddeddf, eithr yr hwn sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar ammod ffydd;
10
mewn trefn i'w adnabod ef, a gallu ei Adgyfodiad, a chymdeithas ei ddyoddefiadau, gan gael fy nghyd-ffurfio i'w farwolaeth ef,
11
os mewn un modd y cyrhaeddaf i Adgyfodiad oddiwrth y meirw.
12
Nid fy mod eisoes wedi derbyn y wobr, neu eisoes wedi fy mherffeithio, ond dylyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof gan Grist.
13
Frodyr, nid wyf yn cyfrif ddarfod i mi fy hun etto gael gafael; ond gwnaf un peth: gan anghofio y pethau sydd o'r tu cefn, a chan ymestyn at y pethau sydd o'r tu blaen,
14
yr wyf yn cyrchu at y nôd, at y gamp o uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.
15
Cynnifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn; ac os ydych yn synied dim yn wahanol, hyn hefyd a ddadguddia Duw i chwi.
16
Yn unig, yr hyn yr ydym wedi cyrhaedd atto, rhodiwn wrtho.
17
Byddwch gyd‐efelychwyr o honof fi, frodyr, a gwyliwch y rhai sydd yn rhodio felly, megys yr ydym ni yn esiampl i chwi;
18
canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais wrthych yn fynych, ac yn awr dan wylo yr wyf yn dywedyd,
19
mai gelynion Croes Crist ydynt, diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai a syniant bethau daearol.
20
Canys ein dinasyddiaeth ni sydd o'r dechreu yn y nefoedd, o'r lle hefyd y dysgwyliwn Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist,
21
yr hwn a ddull‐newidia gorph ein darostyngiad i fod yn un‐ffurf â chorph ei ogoniant ef, yn ol gweithrediad ei allu hyd y nod i ddarostwng pob peth iddo ei hun.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4