bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Hebrews 12
Hebrews 12
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
OBlegid hynny, ninay hevyd can fod kimaint kwmwl testion wedi yn amgylchu ni, bwriwn heibio bob trymfaych, ar pechawd sy barawd i hyny yn amgylch: rredwn yn oddefus yr yrfa a osoded y ni
2
Gan edrych ar Iesu pen twysog a gorphenwr yn ffyð ni, rwn yn l’e llywenyð a osodid yddo, a ddioddefodd y groes, heb prisio ar y dirmig, ac a eisteddawdd ar y llaw ddeau y eisteddfa Dyw.
3
Ystyriwch am hynny pwy ydiw r neb a ðioðefawdd gyfriw ddoydet yn eu erbyn can pechadurraid, rrag ych blino wedi deffygio yn ych meddyliay:
4
Ni wrthladdosochi etto hyd at waed, yn ymryson yn erbyn pechawd.
5
A gollwngesoch tros co y cyngor, y sy yn y ddoyded wrthych megis wrth plant, Vy mab, nac eskulusa cospedigaeth yr Arglwydd, ac na laysa pan gerydder di gantho.
6
Can ys y neb a garo yr arglwydd, ef ay cospa: ac a skwrsio a wna ef pop map a dd erbynio.
7
Os goddefwchi gospedigaeth, megis y feibion y may Dyw yn ymgynig ywch: can ys pa fab fyð nas cospo eu dad ef?
8
Eithr os heb gospedigaeth yddych, o’r hon y may pawb yn gyfrannog, gan hynny meibion aill ydych ac nid meibion o briod.
9
Heb law hynny taday yn kyrff ni, cael a wneym yn cospi canthynt wy, ay perchy a wnaythom: onid mwy o lawer y may y ni ymostwng i dad yr yspryday, a chael byw?
10
Can ys hwyntw yn wir tros ychydig ddyðiau an cospay ni val y bay dda canthynt: eithr hwn an copai ir lles y ni, ir mwyn y ni cael cyfran oy santeidrwydd ef.
11
Nid chwaith hyfrydwch y gedir pob rryw cospedigaeth tros yr amser cydrychol, eithr anhyfrydwch: etto wedi hynny, heddychol ffrwyth cyfiownder a ddyry, ir rrai a font yn arferol a hi.
12
Or achos pam derchefwch eich dwylaw ys wedy llaysu, ar gliniay gwenion.
13
A gwnewch lwybray vnion ich traed, rrac mynd yr hyn ’sy glof, oðiar y ffordd, namyn yn hytrach iachaer ef.
14
Dilydwch heddwch gyd a phawb, a’ santeiddrwydd, heb yr hwn ni wyl neb yr Arglwydd.
15
Disgwilwch, rrag deffygio o neb oddiwrth g ras Dyw: rrac braguro o ryw wreiddin chwerwder y beri aflonyðwch yvvch, a thrwy hwnw llygru llawer.
16
Na fid vn putteiniwr, neu anlan megis Esau, rrwn am ddryll o fwyd a werthodd fraint eu enedigaech.
17
Can ys chwi a wyddoch mal wedi hynny hevyd pan fynase ef gael y fendith trwy dretadawl gyfraith, y gwrthodwyd ef: o blegid ni chafos ef gyfle y edifeirwch, ir y fod trwy ddagre yn keisio yr fendith hono.
18
O blegid nid at y mynydd teimledig, y nesayasoch, ar tan poeth, ar cwmwl ar tywollwg, ar dymestl.
19
A’ sain y corn, a’ llef y geiriau, rrhon yr rai ay clowsant, a ymyscusodason, ir mwyn na ddoydid y gair wrthyntw mwy.
20
(O blegid ni ellyntwy odde yr hyn y roiddid yn y orchymyn, pe rron y ’nifail a chyfwrð ar mynyð, y labyðio a wneir, neu y frathu trwyðo a gwayw:
21
Ac mor aruthr ydoedd y golwg oedd yn ymðāgos, ac y dyvod Moses, Y ddwy yn ofni ac yn crynnu.)
22
Eithyr nesau a wnaythoch at fynydd Syon, a dinas y Dyw byw, Caerselem nefawl, a chwmpeini milfrydd o angylion,
23
A’ chynilleidfa y blaen anedig oli on, rrain a yscrifenwyd yn y nefoeð, a Dyw browdr pob peth, ac yspryday yr rrai cyfion perffeith,
24
Ac at Aesu cyfrwngwr y Testament newydd, ac at waed y taynelliad, sy yn doydyt pethau gwell no gvvaed Abel.
25
Edrychwch nad eskeulusoch y neb sy yn doydyt: o blegid os hwyntw ni ddianghasōt rrain ay gwrthwynebasant ef, y doedd yn doydyt ar y ddayar: mwya oll nas diangvvn ni, os gwrthnebwn y neb sydd yn doydyd or nefoedd.
26
Llef yr hwn a yscydwodd y ddayar, yn awr hagen rrybuddio a wnaeth, gan ddoydyt, Etto vnwaith yr yscydwa, nid yn vnig y ddayar, eithyr y nefoedd hevyd.
27
Yr Etto vnwaith hynny, sy yn arwyðocau treiglad y pethau ansafadwy, megis gwaith llavv val y trico y pethau safadwy,
28
Am hynny gan yn bod ni yn cymered attom tyrnas, ni ellir y scydwyd, ymaylwn yn y gras, drwyr hwn y gallom wasneuthy Dyw, yn y modd ac y bo bodlon cantho, trwy barch ac ofn‐crefyddus.
29
O blegid yn Dyw ni ys‐ tan trauledig yw.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13