bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
Hebrews 2
Hebrews 2
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
AM hynny rraid yni yn ddysceulus ystirieth y pethau a glowsom, mal na ollymgom ni hwynt vn amser y lithro.
2
Can ys o bydday gadarn y gair a ddoydid trwy Angelion, a derbyn o bob sarhaet, ac anufyddtod gyfion talu pwyth,
3
Pa fodd y diangwn ni, od esceuluswn cyfryw vavvr gadwadigaeth? rrwn pan ddechreuwyd y arddangos drwyr arglwydd y hun, a sickerhawyd y ni gan y rrai a fu yn y wrandaw,
4
Duw yn cydtestlauthu, drwy arwyddion a rryveddodau, ac ymravael rinweddau, a’ rranniadau yr Yspryd glan, ar ol y wyllys y hun.
5
Can ys nid ir engylion y darestyngodd ef y byd a ddaw, rrwn y ddydym yn son am dano.
6
Eithr vn yn rryw fan a ddwg testioleth, gan ddoydyd, Beth yw dyn, mal y meddyliech am dano? neu vab dyn mal y darbyddech o honaw?
7
Ti ay gwnaythost ef ychydig yn is nor Angylion: a gogoniant ac vrddas y coronaist ef, ac ay gosodaist ef goruwch gweithredoedd dy ddwylaw.
8
Pob peih a ddarostyngaisti tan y draed ef. Am hyn, gan ddarostwng o hono bob peth yddo, ni adawodd ef ddim heb y ðarostwng iðo. Eythr etto nid ydym yn gweled pop peth yn ostyngedic yddo.
9
Eythr Iesu a welwn ni wedy y goroni a gogoniant ac vrddas, y neb a wnaythbwyd ychydic is nor angylion, herwydd dioddefaint marfolayth: mal y bay yddo ef trwy ras Duw brovi marfolayth dros bawb.
10
Can ys gweddus oedd yddo ef, herwydd pwy y may pob peth, a thrw yr hwn y may pob peth, wrth iddo ddwyn llawer o feibion y ogoniant, gysegru pennadur y cadwadigaeth hwynt trwy ’ovydiau.
11
Can ys y neb a santeiðio, ar sawl a santeiddier, or vn y maynt y gyd oll, or achos hwn ni vydd cwilyddus cantho y galw hwynt yn frodyr,
12
Can ðoydyd, Myvi a ddangosaf dy enw di ym brodyr, ynghanol yr eglwys y canaf ymynnau yti.
13
A’ thrachefn, Mi a ddodaf vy ymddiriaid yntho. A’ thrachefn, Wele vi, a’r plant a roddes Duw y mi.
14
Am hynny gan fod y plant yn gyfrannog o gig a gwaed, yntau hevyd yr vn modd a wnaythbwyd yn gyframog or vnrryw, mal y gallai ef trwy farfolaeth ddistrowiaw, y neb y doedd a llyvodrayth marfolayth ar eu law, sef yw hwnw diawl.
15
Ac mal y gallay ef y ymwared hwynt y gyd oll, rrain rrac ofn marfolaeth gwbl oi bowyd oyðynt tann gaythiwed.
16
Nid angylion eusus a gymerawdd ef: eithyr epil Abraham a gymerawdd ef.
17
Wrth hynny y dylai ef ymhob peth fod yn gyffelib yw frodyr, mal y gallai fod yn drigaroc, ac yn Archoffeiriat ffyddlawn am y pethau a berthynāt y Dduw, y ddiffoddi pechodau y bobl trwy fodloni Duw.
18
Yn wir gan ddioddef o honaw, a’ bod profedigaeth arno: vo ddichon help yr rrai bo profedigaeth arnunt.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13