bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Kings 16
1 Kings 16
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu fab Hanani yn erbyn Baasa, a dweud:
2
"Codais di o'r llwch, a'th wneud yn dywysog ar fy mhobl Israel, ond dilynaist lwybr Jeroboam a pheraist i'm pobl Israel bechu er mwyn fy nigio 'u pechodau.
3
Am hyn yr wyf yn difa olion Baasa a'i deulu a'u gwneud fel teulu Jeroboam fab Nebat.
4
Bydd cu373?n yn bwyta'r rhai o deulu Baasa a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad."
5
Ac onid yw gweddill hanes Baasa, ei hynt a'i wrhydri, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
6
Pan fu farw Baasa, claddwyd ef yn Tirsa, a daeth ei fab Ela yn frenin yn ei le.
7
Ond yr oedd gair yr ARGLWYDD wedi dod at Baasa a'i deulu drwy'r proffwyd Jehu fab Hanani am y drygioni a wnaeth yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy ei ddigio 'i weithredoedd, a dod yn debyg i deulu Jeroboam; a hefyd am iddo ddinistrio hwnnw.
8
Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Ela fab Baasa yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am ddwy flynedd.
9
Yna gwnaeth ei was Simri, capten hanner y cerbydau, gynllwyn yn ei erbyn. Pan oedd y brenin yn Tirsa yn feddw chwil yn nhu375? Arsa rheolwr y tu375? yn Tirsa,
10
daeth Simri a'i daro'n farw; a daeth yn frenin yn ei le yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda.
11
Pan esgynnodd i'r orsedd ar ddechrau ei deyrnasiad, lladdodd bob un o deulu Baasa, heb adael ohonynt yr un gwryw, na chr na chyfaill.
12
Dinistriodd Simri holl dylwyth Baasa yn l gair yr ARGLWYDD wrth Baasa drwy'r proffwyd Jehu,
13
oherwydd i Baasa a'i fab Ela bechu cymaint eu hunain a pheri i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel 'u heilunod.
14
Ac onid yw gweddill hanes Ela, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
15
Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Simri'n frenin am saith diwrnod yn Tirsa. Yr oedd y bobl yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid;
16
a phan glywsant fod Simri wedi cynllwyn a lladd y brenin, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll gwnaeth holl Israel Omri, capten y llu, yn frenin ar Israel.
17
Yna aeth Omri i fyny o Gibbethon, a holl Israel gydag ef, a gwarchae ar Tirsa.
18
A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei chipio, aeth i gaer tu375?'r brenin a llosgi tu375?'r brenin am ei ben, a bu farw.
19
Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a gyflawnodd drwy wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr Jeroboam, a'r pechod a wnaeth ef i beri i Israel bechu.
20
Ac onid yw gweddill hanes Simri a'i gynllwyn wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
21
Yr adeg honno rhannwyd cenedl Israel yn ddwy, gyda hanner y genedl yn dilyn Tibni fab Ginath i'w godi'n frenin, a'r hanner arall yn dilyn Omri.
22
Trechodd y bobl oedd yn dilyn Omri ddilynwyr Tibni fab Ginath, a phan fu Tibni farw, Omri oedd yn frenin.
23
Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Omri yn frenin ar Israel, a theyrnasu am ddeuddeng mlynedd.
24
Wedi teyrnasu am chwe blynedd yn Tirsa, prynodd Fynydd Samaria gan Semer am ddwy dalent o arian, ac adeiladu ar y mynydd ddinas, a alwodd yn Samaria ar l Semer perchennog y mynydd.
25
Ond gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen.
26
Dilynodd holl lwybr a phechod Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel 'u heilunod.
27
Ac onid yw gweddill hanes Omri, ei hynt a'r gwrhydri a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
28
Pan fu farw Omri, claddwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Ahab yn frenin yn ei le.
29
Daeth Ahab fab Omri yn frenin ar Israel yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd Ahab fab Omri ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd ar hugain.
30
Gwnaeth Ahab fab Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen.
31
Ac fel petai'n ddibwys ganddo rodio ym mhechodau Jeroboam fab Nebat, fe gymerodd yn wraig Jesebel, merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac yna addoli Baal ac ymgrymu iddo.
32
Cododd Ahab allor i Baal yn nhu375? Baal, a adeiladodd yn Samaria, a hefyd fe wnaeth ddelw o Asera.
33
Gwnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel o'i flaen.
34
Yn ei adeg ef ailadeiladwyd Jericho gan Hiel o Fethel. Yr oedd ei sylfaenu wedi costio iddo Abiram, ei gyntafanedig, a gosod ei dorau wedi costio iddo Segub ei fab ieuengaf yn unol gair yr ARGLWYDD drwy Josua fab Nun.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22