bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Kings 7
1 Kings 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
1
Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei du375? ei hun cyn ei orffen yn llwyr.
2
Adeiladodd Du375? Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau.
3
To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes.
4
Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair.
5
Yr oedd fframiau sgwr i'r holl ddrysau, ac i'r ffenestri oedd yn wynebu ei gilydd fesul tair.
6
Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben.
7
Gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle'r oedd yn gweinyddu barn, sef y Neuadd Barn, wedi ei phanelu chedrwydd o'r llawr i'r distiau.
8
Ac yr oedd ei du375? annedd ei hun ar y cwrt arall yn nes i mewn na'r neuadd, ond o'r un gwneuthuriad. Gwnaeth Solomon hefyd du375? yr un fath 'r neuadd hon i'w briod, merch Pharo.
9
Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tu375?'r ARGLWYDD, hyd y cwrt mawr.
10
Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd;
11
ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd.
12
Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tu375?'r ARGLWYDD hyd borth y tu375?.
13
Anfonodd y Brenin Solomon i Tyrus i gyrchu Hiram,
14
mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith.
15
Bwriodd ddwy golofn bres, deunaw cufydd o uchder, gyda chylchlin o ddeuddeg cufydd yr un; yr oeddent yn wag o'r tu mewn, a'r deunydd yn bedair modfedd o drwch.
16
Gwnaeth ddau gnap o bres tawdd i'w gosod ar ben y colofnau, y naill a'r llall yn bum cufydd o uchder.
17
Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau.
18
Gwnaeth bomgranadau yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall.
19
Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd.
20
Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer 'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau gnap.
21
Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas.
22
Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau.
23
Yna fe wnaeth y mr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch.
24
O amgylch y mr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain, yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.
25
Safai'r mr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.
26
Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau.
27
Gwnaeth hefyd ddeg o drolau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder.
28
Yng ngwneuthuriad y trolau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid.
29
Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen.
30
Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un.
31
Yr oedd ei genau oddi mewn i gorongylch, yn gufydd o uchder, a'r genau yn gylch cufydd a hanner, fel gwneuthuriad soced. Yr oedd cerfiadau o gwmpas y genau, a'r panelau yn sgwr, nid yn grwn.
32
Yr oedd y pedair olwyn o dan y panelau, a phlatiau echel yr olwynion yn y ffrm; cufydd a hanner oedd uchder pob olwyn.
33
Yr oedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwyn cerbyd, a'u hechelau a'u camegau a'u ffyn a'u bothau i gyd yn waith tawdd.
34
Ac yr oedd pedair ysgwydd ym mhedair congl pob troli, a'r ysgwyddau yn un darn 'r troli.
35
Ac ar ben y troli yr oedd cylch crwn hanner cufydd o uchder, a'r platiau echel a'r panelau yn un darn hi.
36
Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un.
37
Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un.
38
Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli,
39
pum troli ar ochr dde y tu375?, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y mr ar ochr dde-ddwyrain y tu375?.
40
Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD:
41
y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau;
42
y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli;
43
y deg noe ar y trolau;
44
y mr a'r deuddeg ych dano;
45
y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD o bres gloyw.
46
Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen.
47
Peidiodd Solomon phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres.
48
A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i du375?'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod;
49
y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur;
50
y ffiolau, y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau hefyd o aur pur; a'r socedau aur i'r dorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf ac i'r dorau o fewn y cr.
51
Wedi i'r Brenin Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhu375?'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r offer, a'u gosod yn nhrysordai tu375?'r ARGLWYDD.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22