bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Kings 4
1 Kings 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
1
Yr oedd Solomon yn frenin ar holl Israel.
2
Dyma weinidogion y goron: Asareia fab Sadoc yn offeiriad;
3
Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur;
4
Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin; Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;
5
Asareia fab Nathan yn bennaeth y rhaglawiaid; Sabud fab Nathan, yr offeiriad, yn gyfaill y brenin;
6
Ahisar yn arolygwr y tu375?; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod.
7
Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i du375?; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth.
8
Dyma'u henwau: Ben-hur yn ucheldir Effraim;
9
Ben-decar yn Macas a Saalbim a Beth-semes ac Elon-beth-hanan;
10
Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer);
11
Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig);
12
Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam;
13
Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan trigain o ddinasoedd mawr chaerau a barrau pres);
14
Ahinadab fab Ido yn Mahanaim;
15
Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);
16
Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;
17
Jehosaffat fab Parus yn Issachar;
18
Simei fab Ela yn Benjamin;
19
Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.
20
Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus 'r tywod ar lan y mr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.
21
Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.
22
Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd;
23
deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision.
24
Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon.
25
Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba.
26
Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch.
27
Gofalai'r rhaglawiaid hynny, pob un yn ei fis, am ymborth ar gyfer y Brenin Solomon a phawb a ddi at ei fwrdd; nid oedd dim yn eisiau.
28
Dygent hefyd haidd a gwellt i'r ceffylau a'r meirch cyflym, i'r man lle'r oedd i fod, pob un yn l a ddisgwylid ganddo.
29
Rhoddodd Duw i Solomon ddoeth-ineb a deall helaeth, ac amgyffrediad mor eang thraeth y mr.
30
Rhagorodd doethineb Solomon ar ddoethineb holl bobl y Dwyrain a'r Aifft;
31
yr oedd yn ddoethach nag unrhyw un, hyd yn oed Ethan yr Esrahiad, neu Heman, Calcol a Darda, meibion Mahol; yr oedd ei fri wedi ymledu trwy'r holl genhedloedd oddi amgylch.
32
Llefarodd dair mil o ddiarhebion, ac yr oedd ei ganeuon yn rhifo mil a phump.
33
Traethodd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Lebanon hyd yr isop sy'n tyfu o'r pared; hefyd am anifeiliaid ac ehediaid, am ymlusgiaid a physgod.
34
Daethant o bob cenedl i wrando doethineb Solomon, ac o blith holl frenhinoedd y ddaear a glywodd am ei ddoethineb.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22