bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Timothy 1
1 Timothy 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
Paul, apostol Crist Iesu trwy orchymyn Duw, ein Gwaredwr, a Christ Iesu, ein gobaith,
2
at Timotheus, ei blentyn diledryw yn y ffydd. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3
Pan oeddwn ar gychwyn i Facedonia, pwysais arnat i ddal ymlaen yn Effesus, a gorchymyn i rai pobl beidio dysgu athrawiaethau cyfeiliornus,
4
a rhoi'r gorau i chwedlau ac achau diddiwedd. Pethau yw'r rhain sy'n hyrwyddo dyfaliadau ofer yn hytrach na chynllun achubol Duw, a ganfyddir trwy ffydd.
5
Diben y gorchymyn hwn yw'r cariad sy'n tarddu o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiffuant.
6
Gwyro oddi wrth y rhinweddau hyn a barodd i rai droi mewn dadleuon diffaith.
7
Y maent 'u bryd ar fod yn athrawon y Gyfraith, ond nid ydynt yn deall dim ar eu geiriau eu hunain, na chwaith ar y pynciau y maent yn eu trafod mor awdurdodol.
8
Fe wyddom fod y Gyfraith yn beth ardderchog os caiff ei harfer yn briodol fel cyfraith.
9
Gadewch inni ddeall hyn: y mae'r Gyfraith wedi ei llunio, nid ar gyfer y sawl sy'n cadw'r Gyfraith ond ar gyfer y rheini sy'n ei thorri a'i herio, sef yr annuwiol a'r pechadurus, y digrefydd a'r di-dduw, y rhai sy'n lladd tad a mam, yn llofruddio,
10
yn puteinio, yn ymlygru 'u rhyw eu hunain, yn herwgipio, yn dweud celwydd, yn tyngu ar gam, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i'r athrawiaeth iach
11
sy'n perthyn i'r Efengyl a ymddiriedwyd i mi, Efengyl ogoneddus y Duw gwynfydedig.
12
Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a'm nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a'm penodi i'w wasanaeth;
13
myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl.
14
Gorlifodd gras ein Harglwydd arnaf, ynghyd 'r ffydd a'r cariad sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.
15
A dyma air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr: "Daeth Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid." A minnau yw'r blaenaf ohonynt.
16
Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol.
17
Ac i Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a'r anweledig a'r unig Dduw, y byddo'r anrhydedd a'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
18
Timotheus, fy mab, dyma'r siars sydd gennyf i ti, o gofio'r dystiolaeth broffwydol a roddwyd iti o'r blaen; ymddiried yn hyn a bydd lew yn y frwydr,
19
gan ddal dy afael mewn ffydd a chydwybod dda. Am i rai ddiystyru cydwybod, drylliwyd llong eu ffydd.
20
Pobl felly yw Hymenaeus ac Alexander, dau a draddodais i Satan, i'w disgyblu i beidio chablu.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6