bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Timothy 2
1 Timothy 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
1
Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb,
2
dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.
3
Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr,
4
sy'n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.
5
Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn.
6
Fe'i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb, yn dystiolaeth yn yr amser priodol i fwriad Duw.
7
Ar fy ngwir, heb ddim anwiredd, dyma'r neges y penodwyd fi i dystio iddi fel pregethwr ac apostol, yn athro i'r Cenhedloedd yn y ffydd ac yn y gwirionedd.
8
Y mae'n ddymuniad gennyf, felly, fod y gwu375?r ym mhob cynulleidfa yn gweddo, gan ddyrchafu eu dwylo mewn sancteiddrwydd, heb na dicter na dadl;
9
a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud,
10
ond gweithredoedd da, fel sy'n gweddu i wragedd sy'n honni bod yn dduwiol.
11
Rhaid i wragedd gymryd eu dysgu yn dawel gan lwyr ymostwng.
12
Ac nid wyf yn caniatu i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwu375?r; eu lle hwy yw bod yn dawel.
13
Oherwydd Adda oedd y cyntaf i gael ei greu, ac wedyn Efa.
14
Ac nid Adda a dwyllwyd; y wraig oedd yr un a dwyllwyd, a chwympo drwy hynny i drosedd.
15
Ond caiff ei hachub drwy ddwyn plant a bwrw y bydd gwragedd yn parhau mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd, ynghyd diweirdeb.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6