bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Timothy 3
1 Timothy 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
Dyma air i'w gredu: "Pwy bynnag sydd 'i fryd ar swydd arolygydd, y mae'n chwennych gwaith rhagorol."
2
Felly, rhaid i arolygydd fod heb nam ar ei gymeriad, yn u373?r i un wraig, yn ddyn sobr, disgybledig, anrhydeddus, lletygar, ac yn athro da.
3
Rhaid iddo beidio bod yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro. I'r gwrthwyneb, dylai fod yn ystyriol a heddychlon a diariangar.
4
Dylai fod yn un a chanddo reolaeth dda ar ei deulu, ac yn cadw ei blant yn ufudd, phob gwedduster.
5
Os nad yw rhywun yn medru rheoli ei deulu ei hun, sut y mae'n mynd i ofalu am eglwys Dduw?
6
Rhaid iddo beidio bod yn newydd i'r ffydd, rhag iddo droi'n falch a chwympo dan y condemniad a gafodd y diafol.
7
A dylai fod yn un gair da iddo gan y byd oddi allan, rhag iddo gwympo i waradwydd a chael ei ddal ym magl y diafol.
8
Yn yr un modd, rhaid i ddiaconiaid ennyn parch; nid yn ddauwynebog, nac yn drachwantus am win, nac yn chwennych elw anonest.
9
A dylent ddal eu gafael ar ddirgelwch y ffydd gyda chydwybod bur.
10
Dylid eu rhoi hwythau ar brawf ar y cychwyn, ac yna, o'u cael yn ddi-fai, caniatu iddynt wasanaethu.
11
Yn yr un modd dylai eu gwragedd fod yn weddus, yn ddiwenwyn, yn sobr, ac yn ffyddlon ym mhob dim.
12
Rhaid i bob diacon fod yn u373?r i un wraig, a chanddo reolaeth dda ar ei blant a'i deulu ei hun.
13
Oherwydd y mae'r rhai a gyflawnodd waith da fel diaconiaid yn ennill iddynt eu hunain safle da, a hyder mawr ynglu375?n 'r ffydd sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.
14
Yr wyf yn gobeithio dod atat cyn hir, ond rhag ofn y caf fy rhwystro, yr wyf yn ysgrifennu'r llythyr hwn atat,
15
er mwyn iti gael gwybod sut y mae ymddwyn yn nheulu Duw, sef eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.
16
A rhaid inni'n unfryd gyffesu mai mawr yw dirgelwch ein crefydd: "Ei amlygu ef mewn cnawd, ei gyfiawnhau yn yr ysbryd, ei weld gan angylion, ei bregethu i'r Cenhedloedd, ei gredu drwy'r byd, ei ddyrchafu mewn gogoniant."
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6