bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
1 Timothy 4
1 Timothy 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.
2
Pobl yw'r rhain 'u cydwybod wedi ei serio,
3
yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod bwydydd bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd.
4
Oherwydd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac ni ddylid gwrthod dim yr ydym yn ei dderbyn diolch iddo ef,
5
oherwydd y mae'n cael ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.
6
Os dygi di'r pethau hyn i sylw'r gynulleidfa, byddi'n was da i Grist Iesu, yn dy feithrin dy hun geiriau'r ffydd, a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dilyn.
7
Paid gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol.
8
Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw.
9
Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr.
10
I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu, oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb.
11
Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt.
12
Paid gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb.
13
Hyd nes imi ddod, rhaid i ti ymroi i'r darlleniadau a'r pregethu a'r hyfforddi.
14
Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid.
15
Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb.
16
Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6