bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Kings 18
2 Kings 18
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 19 →
1
Yn y drydedd flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda i'r orsedd.
2
Yr oedd yn bump ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abi merch Sechareia oedd enw ei fam.
3
Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.
4
Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan.
5
Ymddiriedai Heseceia yn yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac ni fu neb tebyg iddo ymhlith holl frenhinoedd Jwda, ar ei l nac o'i flaen.
6
Glynodd yn ddiwyro wrth yr ARGLWYDD, a chadw'r gorchmynion a roddodd ef i Moses.
7
Yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef, a llwyddai ym mhopeth a wni; gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.
8
Trawodd y Philistiaid, yn du373?r gwylwyr ac yn ddinas gaerog, hyd at Gasa a'i therfynau.
9
Yn y bedwaredd flwyddyn i'r Brenin Heseceia (y seithfed flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel) ymosododd Salmaneser brenin Asyria ar Samaria a gwarchae arni.
10
Wedi tair blynedd enillodd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, sef y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.
11
Caethgludodd brenin Asyria yr Israeliaid i Asyria, a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.
12
Bu hyn am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD eu Duw, ond troseddu yn erbyn ei gyfamod a'r cwbl a orch-mynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD; nid oeddent yn gwrando nac yn gwneud.
13
Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn.
14
Yna anfonodd Heseceia brenin Jwda at frenin Asyria i Lachis a dweud, "Rwyf ar fai. Dychwel oddi wrthyf, a thalaf iti beth bynnag a godi arnaf." Rhoddodd brenin Asyria ddirwy o dri chan talent o arian a deg talent ar hugain o aur ar Heseceia brenin Jwda.
15
Talodd Heseceia yr holl arian oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas;
16
a'r un pryd tynnodd yr aur oddi ar ddrysau a cholofnau teml yr ARGLWYDD, y rhai yr oedd ef ei hun wedi eu goreuro, ac fe'i rhoddodd i frenin Asyria.
17
Anfonodd brenin Asyria y cad-lywydd, y cadfridog a'r prif swyddog gyda byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia. Wedi iddynt ddringo i fyny i Jerwsalem, safasant wrth bistyll y llyn uchaf sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr, a galw am y brenin.
18
Daeth Eliacim fab Hilceia arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff y cofiadur, allan atynt;
19
a dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria; 'Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?
20
A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?
21
Ai yr Aifft ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac yn agor llaw dyn os pwysa arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.
22
Neu os dywedi wrthyf, "Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw", onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, "O flaen yr allor hon yn Jerwsalem yr addolwch?"'
23
Yn awr, ynteu, beth am daro bargen 'm meistr, brenin Asyria? Rhoddaf ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.
24
Sut, ynteu, y gelli wrthsefyll un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?
25
Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, 'Dos i fyny yn erbyn y wlad hon a dinistria hi.'"
26
Atebwyd y prif swyddog gan Eliacim fab Hilceia a Sebna a Joa, "Gwell gennym iti siarad ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur."
27
Ond dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Ai at eich meistr a chwi yma yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl? Onid hefyd at y dynion sydd ar y mur, ac a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu du373?r eu hunain?"
28
Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, "Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria.
29
Dyma y mae'n ei ddweud, 'Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu o'm llaw.
30
Peidiwch chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, Bydd yr ARGLWYDD yn siu373?r o'n gwaredu ni, ac ni roir y ddinas hon i afael brenin Asyria.'
31
Peidiwch gwrando ar Heseceia. Dyma eiriau brenin Asyria: 'Gwnewch delerau heddwch mi, dewch allan ataf, ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed o ddu373?r ei ffynnon ei hun,
32
nes imi ddyfod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad u375?d a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olewydd, olew a ml; a chewch fyw ac nid marw.' Peidiwch gwrando ar Heseceia yn eich hudo trwy ddweud, 'Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.'
33
A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?
34
Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim, Hena ac Ifa? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?
35
Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut felly y bydd i'r ARGLWYDD waredu Jerwsalem o'm gafael?"
36
Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb.
37
Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho eiriau'r prif swyddog.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25