bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Kings 6
2 Kings 6
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 7 →
1
Dywedodd y proffwydi wrth Eliseus, "Edrych yn awr, y mae'r lle yr ydym yn byw ynddo gyda thi yn rhy gyfyng inni.
2
Gad inni fynd at yr Iorddonen a chymryd oddi yno drawst bob un i wneud lle y gallwn fyw ynddo." Dywedodd yntau, "Ewch."
3
Ond meddai un, "Bydd dithau fodlon i ddod gyda'th weision." Ac atebodd, "Dof."
4
Yna aeth gyda hwy at yr Iorddonen i dorri coed.
5
Tra oedd un yn cwympo trawst, syrthiodd ei fwyell i'r du373?r, a dywedodd, "Gwae fi, syr; un fenthyg oedd hi."
6
Dywedodd gu373?r Duw, "Ple y syrthiodd?" Dangosodd y lle iddo; torrodd yntau ffon a'i thaflu yno, a nofiodd y fwyell.
7
Dywedodd, "Cod hi." Ac estynnodd ei law a'i chymryd.
8
Pan oedd brenin Syria am ryfela yn erbyn Israel, ymgynghorodd 'i weision a phenderfynu, "Yn y fan a'r fan y bydd fy ngwersyll."
9
Ac anfonodd gu373?r Duw at frenin Israel a dweud, "Gwylia rhag mynd heibio'r fan a'r fan, oherwydd y mae'r Syriaid yn mynd i lawr yno."
10
Ac anfonodd brenin Israel ddynion i'r fan a ddywedodd gu373?r Duw, ac felly y rhybuddiwyd ef i fod yn wyliadwrus, dro ar l tro.
11
Cynhyrfodd brenin Syria am hyn a galwodd ei weision ato a dweud wrthynt, "Oni ddywedwch wrthyf pwy ohonom sydd o blaid brenin Israel?"
12
Ond dywedodd un o'i weision, "Nid oes neb, f'arglwydd frenin; Eliseus, y proffwyd o Israel, sy'n dweud wrth frenin Israel y geiriau yr wyt ti'n eu llefaru yn d'ystafell wely."
13
Dywedodd yntau, "Ewch ac edrychwch ble y mae ef, er mwyn i mi anfon i'w ddal."
14
Dywedwyd wrtho, "Y mae yn Dothan." Ac anfonodd yno feirch a cherbydau a byddin gref. Daethant liw nos ac amgylchu'r dref.
15
Pan gododd gwas gu373?r Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, "O feistr, beth a wnawn ni?"
16
Dywedodd yntau, "Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy."
17
Yna gweddodd Eliseus, "ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld." Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus.
18
Pan ddaeth y Syriaid i lawr ato, gweddodd Eliseus ar yr ARGLWYDD a dweud, "Taro'r bobl hyn yn ddall," a thrawyd hwy'n ddall, yn l gair Eliseus.
19
A dywedodd Eliseus wrthynt, "Nid dyma'r ffordd; nid hon yw'r dref. Dilynwch fi, ac af chwi at y gu373?r yr ydych yn ei geisio." Ac arweiniodd hwy i Samaria.
20
Wedi iddynt gyrraedd Samaria, dywedodd Eliseus, "ARGLWYDD, agor lygaid y bobl hyn, iddynt weld." Pan agorodd yr ARGLWYDD eu llygaid a hwythau'n gweld, yno yng nghanol Samaria yr oeddent.
21
A phan welodd brenin Israel hwy, gofynnodd i Eliseus, "Fy nhad, a gaf fi eu lladd bob un?"
22
Atebodd yntau, "Na, paid 'u lladd. A fyddit ti'n lladd y rhai a gymerit yn gaeth trwy dy gleddyf a'th fwa? Rho fara a du373?r o'u blaenau, iddynt gael bwyta ac yfed a mynd yn l at eu meistr."
23
Arlwyodd wledd fawr iddynt, ac wedi iddynt fwyta ac yfed, gollyngodd hwy. Aethant at eu meistr, ac ni ddaeth byddinoedd Syria rhagor i dir Israel.
24
Ymhen amser, cynullodd Ben-hadad brenin Syria ei holl fyddin a mynd i warchae ar Samaria.
25
Yna bu newyn mawr yn Samaria, a'r gwarchae mor dynn nes bod pen asyn yn costio pedwar ugain o siclau arian, a chwarter pwys o dail colomen bum sicl.
26
Fel yr oedd brenin Israel yn cerdded ar y mur, gwaeddodd gwraig arno, "F'arglwydd frenin, helpa fi!"
27
Ond dywedodd, "Na! Bydded i'r ARGLWYDD dy helpu; o ble y caf fi help iti ai o'r llawr dyrnu neu o'r gwinwryf?"
28
Yna gofynnodd y brenin, "Beth sydd o'i le?" Meddai hithau, "Dywedodd y ddynes yma wrthyf, 'Dyro di dy blentyn inni ei fwyta heddiw, a chawn fwyta fy mab i yfory.'
29
Felly berwyd fy mab i a'i fwyta, ac yna dywedais wrthi y diwrnod wedyn, 'Dyro dithau dy fab inni ei fwyta.' Ond y mae hi wedi cuddio'i phlentyn."
30
Pan glywodd y brenin eiriau'r wraig, rhwygodd ei wisg; a chan ei fod yn cerdded ar y mur, gwelodd y bobl ei fod yn gwisgo sachliain yn nesaf at ei groen.
31
Ac meddai, "Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os ceidw Eliseus fab Saffat ei ben ar ei ysgwyddau heddiw."
32
Gartref yr oedd Eliseus, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. Anfonodd y brenin u373?r o'i lys, ond cyn i'r negesydd gyrraedd, yr oedd Eliseus wedi dweud wrth yr henuriaid, "A welwch chwi fod y cyw llofrudd hwn wedi anfon rhywun i dorri fy mhen? Edrychwch; pan fydd y negesydd yn cyrraedd, caewch y drws a daliwch y drws yn ei erbyn. Onid wyf yn clywed su373?n traed ei feistr yn ei ddilyn?"
33
A thra oedd eto'n siarad hwy, dyna'r brenin yn cyrraedd ac yn dweud, "Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth ein haflwydd, pam y disgwyliaf rhagor wrtho?"
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25