bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Kings 20
2 Kings 20
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 21 →
1
Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trefna dy du375?, oherwydd yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw.'"
2
Trodd yntau ei wyneb at y pared a gweddo ar yr ARGLWYDD, a dweud:
3
"O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di mewn cywirdeb ac chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg." Yna beichiodd wylo.
4
A chyn bod Eseia wedi gadael y cyntedd canol daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud,
5
"Dos yn l, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iachu. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml.
6
Ychwanegaf bymtheng mlynedd at dy oes, a gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.'"
7
Yna dywedodd Eseia wrthynt, "Cymerwch bowltis ffigys." Ac wedi iddynt wneud hynny a'i osod ar y cornwyd, fe wellodd.
8
Gofynnodd Heseceia i Eseia, "Beth yw'r arwydd y bydd yn fy iachu, ac yr af i fyny i'r deml ymhen tridiau?"
9
Dywedodd Eseia, "Dyma fydd yr arwydd iti oddi wrth yr ARGLWYDD y bydd yn cyflawni'r hyn a ddywedodd: bydd y cysgod yn symud ddeg gris ymlaen neu ddeg gris yn l."
10
Dyw-edodd Heseceia, "Y mae'n haws i'r cysgod symud ymlaen ddeg gris; na, aed y cysgod yn l ddeg gris."
11
Galwodd y proffwyd Eseia ar yr ARGLWYDD, a gwnaeth yntau i'r cysgod fynd yn ei l ddeg gris, lle'r arferai fynd i lawr ar risiau Ahas.
12
Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael.
13
Croesawodd Heseceia hwy a dangos iddynt ei drysordy i gyd, yr arian a'r aur, a'r perlysiau a'r olew persawrus, a'i arfdy a phopeth oedd yn ei storfeydd. Nid oedd dim yn ei balas na'i deyrnas na ddangosodd Heseceia iddynt.
14
Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, "Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?" Atebodd Heseceia, "O wlad bell, o Fabilon y daethant."
15
Yna holodd, "Beth a welsant yn dy du375??" Dywedodd Heseceia, "Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhu375?; nid oes dim yn fy nhrysorfa nad wyf wedi ei ddangos iddynt."
16
Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, "Gwrando air yr ARGLWYDD:
17
'Wele 'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,' medd yr ARGLWYDD.
18
Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, had dy gorff, a byddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon."
19
Atebodd Heseceia, "o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru." Meddyliai, "Oni fydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i?"
20
Am weddill hanes Heseceia, a'i holl wrhydri, ac fel y gwnaeth gronfa ddu373?r a'r ffos a ddi du373?r i'r ddinas, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
21
Bu farw Heseceia, a daeth Manasse yn frenin yn ei le.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25