bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 Kings 9
2 Kings 9
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 10 →
1
Galwodd y proffwyd Eliseus ar un o'r proffwydi a dweud wrtho, "Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y ffiol olew hon yn dy law a dos i Ramoth-gilead.
2
Wedi iti gyrraedd, edrych yno am Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi;
3
yna dos a chymer ef allan o blith ei gymrodyr a mynd ag ef i ystafell fewnol, a chymryd y ffiol olew a'i harllwys ar ei ben a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.' Yna agor y drws a ffo heb oedi."
4
Aeth y llanc o broffwyd i Ramoth-gilead.
5
A phan gyrhaeddodd, yr oedd swyddogion y fyddin yn eistedd gyda'i gilydd, a dywedodd, "Y mae gennyf neges i ti, syr." Gofynnodd Jehu, "I ba un ohonom?" "I ti, syr," meddai yntau.
6
Cododd a mynd i mewn; yna tywalltodd y llanc yr olew ar ben Jehu, a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
7
Taro du375? Ahab, dy feistr, fel y caf ddial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, a holl weision yr ARGLWYDD.
8
Difethir holl du375? Ahab, a distrywiaf bob gwryw sydd gan Ahab yn Israel, caeth neu rydd.
9
A gwnaf du375? Ahab fel tu375? Jeroboam fab Nebat a thu375? Baasa fab Aheia.
10
Ac am Jesebel, bydd y cu373?n yn ei bwyta yn rhandir Jesreel, heb neb i'w chladdu." Yna fe agorodd y drws a ffoi.
11
Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, "A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?" Atebodd yntau, "Gwyddoch am y dyn a'i siarad."
12
"Paid 'th gelwydd," meddent, "da thi, dywed wrthym." Ac atebodd, "Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.'"
13
Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, "Jehu sydd frenin!"
14
A gwnaeth Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi gynllwyn yn erbyn Joram. Yr oedd Joram a holl Israel ar wyliadwriaeth yn Ramoth-gilead rhag Hasael brenin Syria;
15
ond yr oedd Joram wedi dychwelyd adref i Jesreel i wella o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid wrth ymladd Hasael brenin Syria. A dywedodd Jehu, "Os dyma'ch teimlad, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i yngan gair yn Jesreel."
16
Aeth Jehu yn ei gerbyd am Jesreel, gan fod Joram yn orweiddiog yno. Ac yr oedd Ahaseia brenin Jwda wedi dod i edrych am Joram.
17
Yr oedd gwyliwr yn sefyll ar du373?r yn Jesreel, a gwelodd fintai Jehu yn dod, a dywedodd, "Rwy'n gweld mintai." Dywedodd Joram, "Dewis farchog, a'i anfon i'w cyfarfod, i ofyn a yw popeth yn iawn."
18
Yna fe aeth marchog i'w cyfarfod a dweud, "Fel hyn y mae'r brenin yn gofyn; 'A yw popeth yn iawn?'" Ac meddai Jehu, "Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn." Cyhoeddodd y gwyliwr, "Y mae'r negesydd wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn l."
19
Yna anfonwyd ail farchog, a phan gyrhaeddodd atynt, dywedodd, "Fel hyn y dywed y brenin; 'A yw popeth yn iawn?" Atebodd Jehu, "Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn."
20
A chyhoeddodd y gwyliwr, "Y mae wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn l; ac y mae'r gyrru fel gyrru Jehu fab Nimsi, oherwydd y mae'n gyrru'n ynfyd."
21
Dywedodd Joram, "Cyplwch fy ngherbyd." Ac wedi iddynt ei gyplu, aeth Joram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan bob un yn ei gerbyd, i gyfarfod Jehu; a chawsant ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.
22
Pan welodd Joram Jehu gofynnodd, "A yw popeth yn iawn, Jehu?" Atebodd yntau, "Sut y gall fod yn iawn tra bo cymaint o buteindra a hudoliaeth dy fam Jesebel yn aros?"
23
Yna troes Joram ei gerbyd yn l a ffoi, a gweiddi ar Ahaseia, "Brad, Ahaseia!"
24
Cydiodd Jehu yn ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau nes i'r saeth fynd trwy ei galon, a syrthiodd i'r cerbyd.
25
Dywedodd Jehu wrth Bidcar ei is-gapten, "Gafael ynddo a bwrw ef i randir Naboth y Jesreeliad; oblegid rwyf fi a thithau'n cofio, pan oeddem yn cydyrru cerbyd ar l ei dad Ahab, fod yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi'r oracl hwn yn ei erbyn:
26
'Cyn wired ag y gwelais waed Naboth a'i feibion ddoe, medd yr ARGLWYDD, fe dalaf yn l i ti yn y rhandir hwn, medd yr ARGLWYDD'; felly, gafael ynddo a bwrw ef allan i'r rhandir, yn l gair yr ARGLWYDD."
27
Pan welodd Ahaseia brenin Jwda hyn, ffodd i gyfeiriad Beth-haggan, a Jehu yn erlyn ar ei l ac yn dweud, "Tarwch yntau hefyd." A thrawsant ef yn ei gerbyd wrth allt Gur ger Ibleam, ond ffodd i Megido a marw yno.
28
Yna cludodd ei weision ef i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei feddrod gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.
29
Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram fab Ahab y daeth Ahaseia yn frenin ar Jwda.
30
Daeth Jehu i Jesreel. Pan glywodd Jesebel, colurodd ei hwyneb ac addurno ei phen, ac edrychodd allan trwy'r ffenestr.
31
Fel yr oedd Jehu yn cyrraedd y porth, dywedodd wrtho, "A fydd heddwch, Simri, llofrudd ei feistr?"
32
Cododd yntau ei olwg at y ffenestr a gofyn, "Pwy sydd o'm plaid? Pwy?" Edrychodd dau neu dri o'r gweision allan, ac meddai Jehu, "Taflwch hi i lawr."
33
Taflasant hi i lawr, a thasgodd peth o'i gwaed ar y pared ac ar y meirch, a mathrwyd hithau.
34
Wedi iddo fwyta ac yfed, dywedodd, "Gofalwch am gladdu'r ddynes felltigedig yna, oblegid merch i frenin oedd hi."
35
Ond pan aethant i'w chladdu, ni chawsant ddim ohoni ond y benglog a'r traed a chledrau'r dwylo.
36
A phan ddaethant yn l a dweud wrtho, dywedodd Jehu, "Dyma a fynegodd yr ARGLWYDD drwy ei was Elias y Thesbiad: Yn rhandir Jesreel fe fwyty'r cu373?n gnawd Jesebel,
37
a bydd corff Jesebel fel tail ar wyneb cae yn rhandir Jesreel, fel na ellir dweud, 'Dyma Jesebel.'"
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25