bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ecclesiastes 1
Ecclesiastes 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
1
Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem:
2
"Gwagedd llwyr," meddai'r Pregethwr, "gwagedd llwyr yw'r cyfan."
3
Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur, wrth iddo ymlafnio dan yr haul?
4
Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond y mae'r ddaear yn aros am byth.
5
Y mae'r haul yn codi ac yn machlud, ac yn brysio'n l i'r lle y cododd.
6
Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de, ac yna'n troi i'r gogledd; y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus, ac yn dod yn l i'w gwrs.
7
Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r mr, ond nid yw'r mr byth yn llenwi; y mae'r nentydd yn mynd yn l i'w tarddle, ac yna'n llifo allan eto.
8
Y mae pob peth mor flinderus fel na all neb ei fynegi; ni ddigonir y llygad trwy edrych, na'r glust trwy glywed.
9
Yr hyn a fu a fydd, a'r hyn a wnaed a wneir; nid oes dim newydd dan yr haul.
10
A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano, "Edrych, dyma beth newydd"? Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith, y mae'n bod o'n blaenau ni.
11
Ni chofir am y rhai a fu, nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hl; ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn.
12
Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem.
13
Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch.
14
Gwelais yr holl bethau a ddig-wyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt.
15
Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ar goll.
16
Dywedais wrthyf fy hun, "Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth."
17
Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfm nad oedd hyn ond ymlid gwynt.
18
Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid, ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12