bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ecclesiastes 10
Ecclesiastes 10
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 11 →
1
Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi, felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd.
2
Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde, ond calon y ffl yn ei droi i'r chwith.
3
Pan yw'r ffl yn cerdded ar y ffordd, nid oes synnwyr ganddo, ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd.
4
Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn, paid ag ymddiswyddo; y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr.
5
Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr:
6
ffu373?l wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol.
7
Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision.
8
Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr.
9
Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt, a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt.
10
Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod llwyddiant.
11
Os na swynir neidr cyn iddi frathu, nid oes mantais o gael swynwr.
12
Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond geiriau'r ffl yn ei ddinistrio.
13
Y mae ei eiriau'n dechrau yn ffl, ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr,
14
a'r ffu373?l yn amlhau geiriau. Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw, a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei l?
15
Y mae llafur y ffl yn ei wneud yn lluddedig, ac ni u373?yr sut i fynd i'r ddinas.
16
Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat, a'th dywysogion yn gwledda yn y bore!
17
Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig, a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol, a hynny i gryfhau ac nid i feddwi!
18
Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi, a'r tu375?'n gollwng o achos llaesu dwylo.
19
I gael llawenydd y paratoir gwledd, ac y mae gwin yn llonni bywyd, ac arian yn ateb i bopeth.
20
Paid melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12