bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ecclesiastes 4
Ecclesiastes 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 5 →
1
Unwaith eto ystyriais yr holl orthrymderau sy'n digwydd dan yr haul. Gwelais ddagrau y rhai a orthrymwyd, ac nid oedd neb i'w cysuro; yr oedd nerth o blaid eu gorthrymwyr, ac nid oedd neb i'w cysuro.
2
Yna deuthum i'r casgliad ei bod yn well ar y rhai sydd eisoes wedi marw na'r rhai sy'n dal yn fyw.
3
Ond gwell na'r ddau yw'r rhai sydd eto heb eu geni, ac sydd heb weld y drwg a wneir dan yr haul.
4
Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
5
Y mae'r ffl yn plethu ei ddwylo, ac yn ei ddifa'i hun.
6
Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt.
7
Unwaith eto gwelais y gwagedd sydd dan yr haul:
8
rhywun unig heb fod ganddo na chyfaill, na mab na brawd; nid oes diwedd ar ei holl lafur, eto nid yw cyfoeth yn rhoi boddhad iddo. Nid yw'n gofyn, "I bwy yr wyf yn llafurio, ac yn fy amddifadu fy hun o bleser?" Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn orchwyl diflas.
9
Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tl da am eu llafur;
10
os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
11
Hefyd os bydd dau yn gorwedd gyda'i gilydd, y mae'r naill yn cadw'r llall yn gynnes; ond sut y gall un gadw'n gynnes ar ei ben ei hun?
12
Er y gellir trechu un, y mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.
13
Y mae bachgen tlawd, ond doeth, yn well na brenin hen a ffl, nad yw bellach yn gwybod sut i dderbyn cyngor.
14
Yn wir, gall un ddod allan o garchar i fod yn frenin, er iddo gael ei eni'n dlawd yn ei deyrnas.
15
Gwelais bawb oedd yn byw ac yn rhodio dan yr haul yn dilyn y bachgen oedd yn lle'r brenin.
16
Nid oedd terfyn ar yr holl bobl, ac yr oedd ef yn ben arnynt i gyd; ond nid oedd y rhai a ddaeth ar ei l yn ymhyfrydu ynddo. Yn wir, y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12