bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ecclesiastes 7
Ecclesiastes 7
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 8 →
1
Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, a dydd marw yn well na dydd geni.
2
Y mae'n well mynd i du375? galar na mynd i du375? gwledd; oherwydd marw yw tynged pawb, a dylai'r byw ystyried hyn.
3
Y mae tristwch yn well na chwerthin; er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.
4
Y mae calon y doethion yn nhu375? galar, ond calon y ffyliaid yn nhu375? pleser.
5
Y mae'n well gwrando ar gerydd y doeth na gwrando ar gn ffyliaid.
6
Oherwydd y mae chwerthin y ffu373?l fel clindarddach drain o dan grochan. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
7
Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd, ac y mae cil-dwrn yn llygru'r meddwl.
8
Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau, ac amynedd yn well nag ymffrost.
9
Paid rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
10
Paid dweud, "Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?" Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.
11
Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth, ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.
12
Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian; mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
13
Ystyria'r hyn a wnaeth Duw; pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?
14
Bydd lawen pan yw'n dda arnat, ond yn amser adfyd ystyria hyn: Duw a wnaeth y naill beth a'r llall, fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
15
Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni.
16
Paid bod yn rhy gyfiawn, a phaid bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun?
17
Paid bod yn rhy ddrwg, a phaid bod yn ffu373?l; pam y byddi farw cyn dy amser?
18
Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.
19
Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.
20
Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
21
Paid chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio;
22
yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.
23
Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, "Yr wyf am fod yn ddoeth," ond yr oedd yn bell oddi wrthyf.
24
Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod?
25
Fe euthum ati i ddeall 'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd.
26
A chanfm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd 'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi.
27
"Edrych, dyma'r peth a ganfm," medd y Pregethwr, "trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr,
28
oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canfm un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt.
29
Edrych, hyn yn unig a ganfm: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau."
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12