bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Ezra 10
Ezra 10
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
1
Tra oedd Esra'n gweddo yn ei ddagrau, yn cyffesu ar ei hyd o flaen tu375? Dduw, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Israeliaid ato, yn wu375?r, gwragedd a phlant, ac yr oedd y bobl yn wylo'n hidl.
2
Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, "Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn.
3
Yn awr gadewch i ni wneud cyfamod 'n Duw i droi ymaith yr holl ferched hyn a'u plant, yn l cyngor f'arglwydd a'r rhai sy'n parchu gorchymyn ein Duw; a byddwn felly'n cadw'r gyfraith.
4
Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol."
5
Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid ac i holl Israel addo hyn, a gwnaethant hwythau addewid.
6
Aeth Esra o du375?'r Arglwydd i ystafell Johanan fab Eliasib, ac aros yno heb fwyta bara nac yfed du373?r am ei fod yn dal i alaru am gamwedd y rhai a ddaeth o'r gaethglud.
7
Yna anfonwyd neges trwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i bawb a fu yn y gaethglud ymgynnull yn Jerwsalem,
8
a byddai pob un na ddi o fewn tridiau ar wu375?s y penaethiaid a'r henuriaid yn colli ei gyfoeth ac yn cael ei dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.
9
O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd holl wu375?r Jwda a Benjamin i Jerwsalem, ac eisteddodd pawb yn y sgwr o flaen tu375? Dduw yn crynu o achos yr hyn oedd yn digwydd ac o achos y glawogydd.
10
Cododd Esra yr offeiriad a dweud wrthynt, "Yr ydych wedi gwneud camwedd ac wedi ychwanegu at euogrwydd Israel trwy briodi merched estron.
11
Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron."
12
Atebodd yr holl gynulleidfa llais uchel, "Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.
13
Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.
14
Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym."
15
Yr unig wrthwynebwyr oedd Jonathan fab Asahel ac Eseia fab Ticfa, a chawsant gefnogaeth Mesulam a Sabethai y Lefiad.
16
Wedi i'r rhai oedd wedi bod yn y gaethglud gytuno, fe neilltuodd Esra yr offeiriad ddynion oedd yn bennau-teuluoedd i gynrychioli eu teuluoedd wrth eu henwau. Eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis i archwilio'r mater,
17
ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.
18
Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr.
19
Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd.
20
O feibion Immer: Hanani a Sebadeia.
21
O feibion Harim: Maseia, Eleia, Semaia, Jehiel ac Usseia.
22
O feibion Pasur: Elioenai, Maseia, Ismael, Nethaneel, Josabad ac Elasa.
23
o'r Lefiaid: Josabad, Simei a Chelaia (hynny yw, Celita), Pethaheia, Jwda ac Elieser.
24
o'r cantorion: Eliasib. o'r porthorion: Salum, Telem ac Uri.
25
O Israel, o feibion Paros: Rameia, Jeseia, Malcheia, Miamin, Eleasar, Malcheia a Benaia.
26
O feibion Elam: Mataneia, Sechareia, Jehel, Abdi, Jeremoth ac Eleia.
27
O feibion Sattu: Elioenai, Eliasib, Mataneia, Jeremoth, Sabad ac Asisa.
28
O feibion Bebai: Jehohanan, Hananeia, Sabai ac Athlai.
29
O feibion Bani: Mesulam, Maluch, Adaia, Jasub, Seal a Ramoth.
30
O feibion Pahath-moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, Binnui a Manasse.
31
O feibion Harim: Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
32
Benjamin, Maluch a Semareia.
33
O feibion Hasum: Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse a Simei.
34
O feibion Bani: Maadai, Amram, Uel,
35
Benaia, Bedeia, Celu,
36
Faneia, Meremoth, Eliasib,
37
Mataneia, Matenai, Jasau,
38
Bani, Binnui, Simei,
39
Selemeia, Nathan, Adaia,
40
Machnadebai, Sasai, Sarai,
41
Asareel, Selemeia, Semareia,
42
Salum, Amareia a Joseff.
43
O feibion Nebo: Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadue, Joel a Benaia.
44
Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi merched estron, ond troesant hwy allan, yn wragedd a phlant.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10